Ydy, mae’n anghysbell. Ond mae’n denu pawb sy'n frwd dros gestyll. Mewn llinyn ar hyd brigiad creigiog danheddog yn Nyffryn Dysynni wrth droed Cader Idris, mae Castell y Bere yn enwedig o dda am ddeffro naws ac awyrgylch cestyll brodorol Cymru. Fe’i hadeiladwyd gan reolwr Cymru Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) i warchod ffin ddeheuol Gwynedd, a dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1221, a’r castell yn cael ei ddefnyddio o hyd tan 1294. Er gellir priodoli llawer o gryfder Castell y Bere i’w uchelfan, mae ei ddyluniad yn tystio i ddyfeisgarwch ei benseiri Cymreig. Roedd y fynedfa soffistigedig, sy’n cynnwys dau borthdy gyda phontydd codi ac efallai porthcwlisiau, gryn dipyn o flaen ei hoes, hyd yn oed yn ôl safonau amddiffynfeydd y Saeson.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar agor drwy’r flwyddyn |
|---|---|
|
Ar agor drwy'r flwyddyn yng ngolau dydd Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Lle i gadw beiciau
Croeso i gŵn
Maes parcio
Maes parcio bach ger mynedfa’r safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 4 – anodd
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Gellir dod o hyd i’r heneb o fewn coetir ar ei ben ei hun. Bydd angen i ymwelwyr ddilyn y llwybr o'r maes parcio sy'n mynd â chi at y grisiau i brif fynedfa'r castell.
Mae'r tir yma yn anwastad a gall fod yn fwdlyd mewn tywydd gwael. Mae rhai lleoedd parcio yn y maes parcio dynodedig, gydag ambell le ar hyd y llwybr. Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y brif ffordd gan ei bod yn eithaf cul ac ymatal rhag parcio yn eiddo ein cymydog.
Mae'r heneb ei hun wedi'i chodi ar wahanol lefelau o uchder, sy'n gofyn am ddefnyddio sawl gris a dringo ychydig. Gall y pontydd pren a’r grisiau hanesyddol hefyd fod yn llithrig mewn amodau gwlyb. Mae’r grisiau hanesyddol hefyd yn naturiol yn anwastad mewn mannau, defnyddiwch y canllawiau lle maen nhw ar gael.
Mae nifer o risiau hanesyddol yn arwain at rannau o’r wal uchaf, nid ydym yn annog unrhyw archwilio pellach o'r ardal hon a gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd gan ddefnyddio'r grisiau.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn ardaloedd penodol.
Gall dringo arwain at anaf difrifol. Peidiwch â dringo dros neu drwy unrhyw osodiad sefydlog.
Mae hyn yn cynnwys y ffynnon a fydd yn llawn dŵr.
Mae yna rai llwybrau ochr sy'n mynd trwy byrth bwaog bach, mae'r rhain yn hawdd eu gweld. Gofynnwn i chi fod yn ofalus nad ydych yn taro’ch pen wrth fynd drwyddynt.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health & Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol. Cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Cod post LL36 9TS
what3words: ///ysgwyddo.enillaf.parchus
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol