Skip to main content

Arolwg

Symbol adfeiliedig o herfeiddiad y Cymry

Wedi’i adeiladu gan yr Arglwydd o Gymro Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) ym 1273 ar fryn uwchben Cwm Hafren, roedd Castell Dolforwyn yn bwynt tanio mewn cysylltiadau Eingl-Gymreig o’r cychwyn cyntaf. Pan gafodd Brenin Edward I wybod am y castell, ysgrifennodd at Llywelyn yn ei wahardd rhag parhau â’r gwaith adeiladu. Mewn ymateb, dywedodd Llywelyn nad oedd angen caniatâd y brenin arno i adeiladu ar ei dir ei hun, ac ymlaen ag ef â’r gwaith.

Yn anffodus, byrhoedlog fyddai herfeiddiad Llywelyn. Aeth un o arglwyddi’r Mers, Roger Mortimer, â Dolforwyn ym 1277 ar ôl pythefnos o warchae. Gadawyd y castell yn y 14eg ganrif, ac aeth â’i ben iddo nes bod cloddiadau cymharol ddiweddar yn datgelu ei olion brau.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer 5 car ar waelod y llwybr serth i'r castell.

Mae modd cyrraedd y castell o'r maes parcio trwy lethr serth am oddeutu 300 metr ar lwybr trac; gall y daith gerdded gymryd hyd at 20 munud a chynghorir ymwelwyr i gadw ar ochr dde'r llwybr.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau


Cyfarwyddiadau

Rheilffordd
Y Drenewydd 5mllr (8km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 81 (1.3km/0.8mllr)

Cod post SY15 6JJ

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50