Castell Trefaldwyn
Hysbysiad Ymwelwyr
Mae Castell Trefaldwyn ar gau ar hyn o bryd oherwydd tywydd gwael.
Rydym ar yr adeg hon yn monitro’r sefyllfa a byddwn yn eich diweddaru pan fydd y castell yn gallu ailagor.
Arolwg
Yn fwy na swm ei rannau
Trefaldwyn yw un o’r cestyll sydd, hyd yn oed mewn adfail, yn cadw awyrgylch a phresenoldeb pwerus sy’n codi y tu hwnt i’w gyflwr presennol. Efallai mai ei leoliad sy’n gyfrifol am hynny, ar glegyr serth uwchben tref Sioraidd ddel gyda golygfeydd pellgyrhaeddol ar draws ffin Cymru.
Dechreuwyd ei adeiladu tua 1223 yn ôl gorchymyn Harri III mewn ymateb i bŵer cynyddol tywysog brodorol Cymru, Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr); cymerodd castell carreg Trefaldwyn le caer bren gerllaw o’r enw Hen Domen. Yn sefyll ar ei gefnen greigiog, roedd y gaer newydd hon yn llawer cadarnach ac yn fwy soffistigedig, gyda chwrt mewnol o garreg, ffynnon, ffosydd amddiffynnol dofn a phontydd codi’n eu croesi, a thref furiog.
Defnyddiwyd y castell yn barhaus am ganrifoedd, gan oroesi ymosodiadau gan Llywelyn ym 1228 a 1231 a mab Llywelyn, Dafydd, ym 1245. Daeth y castell i ben yn y pen draw yn ystod y Rhyfel Cartref, pan gwympodd i’r Seneddwyr ac fe’i dymchwelwyd ym 1649, gan adael dim ond y tyrrau brau a’r waliau isel sy’n sefyll heddiw.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am - 6pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am - 4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Gall tua 15 car barcio ar y safle gydag 1 lle parcio penodol i bobl anabl (tua 100 metr).
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Cod post SY15 6HN
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50