Skip to main content

Arolwg

Pont gudd brydferth dros Afon Dyfi 

Mae graddfa fechan a golwg werdd fwsoglyd y bont hon a’i dau fwa yn rhoi naws stori tylwyth teg iddi, ond mewn gwirionedd fe’i hadeiladwyd am resymau beunyddiol ymarferol tua dechrau’r 17eg ganrif er mwyn i bynfeirch groesi Afon Dyfi. Erbyn hyn, mae traffig yn gwibio heibio ar hyd cefnffordd yr A470 rhwng y gogledd a’r de, heb sylweddoli ei bod mor agos, felly cofiwch gymryd yr amser i aros i’w gweld.

Y sawl a dalodd am adeiladu Pont Minllyn oedd Dr John Davies, rheithor Mallwyd, un o ysgolheigion amlycaf yr oes yng Nghymru. Credir y bu ganddo ran yn cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin, yn ogystal â chyhoeddi ei lyfr ei hun o ramadeg y Gymraeg.


Amseroedd agor


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

I ymweld â'r bont, o'r A470, yn nhref Minllyn, trowch i mewn i'r dreif ar gyfer Melin Meirion a pharcio yn eu maes parcio. Cerddwch yn ôl i'r brif ffordd a chwiliwch am arwydd Pont Minllyn ar y dde ychydig cyn cyrraedd y brif ffordd. Mae tair pont dros yr afon; y bont fodern a dwy bont hŷn.