Skip to main content

Arolwg

Castell a godwyd i oroesi

Ynghyd â’i gymdogion yng Nghoety ac Ogwr, roedd y Castell Newydd yn gwarchod y mannau croesi afon pwysig a arferai reoli mynediad i Forgannwg pan oedd llawer o’r rhan hon o’r wlad o dan reolaeth frodorol y Cymry.

Yn ôl pob tebyg, roedd y castell gwreiddiol yma yn wrthglawdd llai soffistigedig, gyda’r olion sy’n sefyll heddiw’n dyddio o gyfnod adeiladu diweddarach o adnewyddu yn y 1180au. Ar y pryd, Harri II oedd yn dal y castell, ac mae’n siŵr bod y cysylltiad brenhinol hwn yn egluro pam gafodd ei adeiladu cystal.

Gellir gweld tystiolaeth o ansawdd adeiladu uwchraddol y castell yn ei ddrws Normanaidd trawiadol, wedi’i gadw mewn cyflwr perffaith heb ei gyffwrdd bron ers y 12fed ganrif.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 885 (0.3m/0.5km)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50