Castell Grysmwnt
Hysbysiad i Ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Cawr ar y ffin
Mae Grysmwnt yn aelod o driawd enwog o gadarnleoedd. Ynghyd ag Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn, mae’n un o ‘Dri Chastell Gwent’ a adeiladwyd gan y Normaniaid i reoli rhan allweddol o ffindir trwblus. Cafodd y cadarnle pridd a choed gwreiddiol, a adeiladwyd ar gros mhont (Ffrangeg am ‘fryn mawr’), ei ddisodli’n ddiweddarach â charreg. Cafodd fywyd gweithgar. Yn y 13eg ganrif cafodd ei ailadeiladu gan gynnwys y porthdy a’r tyrau cylchol. Yn sgil ailfodelu ganrif yn ddiweddarach, cafodd Grysmwnt randai yn addas i aelwyd fonheddig, ond erbyn y 15fed ganrif roedd y castell yn ei chanol hi eto, dan warchae yn y gwrthryfel dan arweinydd carismatig y Cymry, Owain Glyndŵr.
Prisiau
Cyfleusterau
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Cod post NP7 8EP
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.