Croes Mynwent Derwen
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Croes bregethu â cherfiadau Cristnogol trawiadol sydd wedi sefyll prawf amser
A hithau’n 6.5 troedfedd/2m o uchder (neu 14 troedfedd/4.3m os cyfrwch chi ei phedestal carreg), mae’r groes bregethu ganoloesol addurnedig hon ymhlith y goreuon yn y rhan hon o Gymru o ran cyflwr. Er bod y canrifoedd wedi’i threulio, mae llawer o’i cherfiadau dyrys yn y golwg o hyd. Addurnwyd y goes wythonglog â dail ac wynebau, ac mae pedair ochr pen siâp blwch yn cynnwys darluniau cerfiedig o olygfeydd Beiblaidd gan gynnwys y Forwyn a’i Phlentyn, y croeshoeliad a’r Forwyn a Sant Ioan.
Mae’n werth hefyd ymweld â’r eglwys, gyda’i chroglen a’i llofft yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg ganrif.