Skip to main content

Arolwg

Y cynharaf a’r mwyaf anarferol o gestyll Cymru a adeiladwyd gan y Saeson

Mae’r rheini sy’n frwd dros bensaernïaeth filwrol yn anelu’n syth am y Fflint. Hwn yw’r castell cyntaf i’w sylfaenu yn rhan o ymgyrch Edward I yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) yng ngogledd Cymru, ac mae iddo ddyluniad unigryw ac anarferol o soffistigedig.

Dechreuwyd y gwaith ym 1277 ac fe’i cwblhawyd gan mwyaf erbyn 1284, a phrif nodwedd y castell yw’r tŵr mawr (neu orthwr) yng nghornel y de-ddwyrain. Wedi’i amgylchynu gan ei ffos ei hun a phont godi’n arwain i mewn iddo, castell o fewn castell ydyw i bob pwrpas. Fe’i hadeiladwyd â waliau eithriadol o drwchus a’r holl gyfleusterau gofynnol i wrthsefyll gwarchae, felly gellir tybio mai’r bwriad oedd cael lloches derfynol mewn ymosodiad.

Mae Castell y Fflint hefyd yn enwog am fod yn lleoliad cyfarfod tyngedfennol ym 1399 rhwng Rhisiart II a’i gystadleuydd i’r goron Henry Bolingbroke (Harri IV yn ddiweddarach), digwyddiad a wnaed yn anfarwol yn nrama Richard II Shakespeare.

Mwy am Gastell y Fflint


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Ceir arwyddion meysydd parcio cyhoeddus yn y dref â mynediad da i'r castell.

Mae 1 lle parcio penodol i bobl anabl tua 100 metr i ffwrdd.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau


Cyfarwyddiadau

Rheilffordd
270m/295 llath - Gorsaf y Fflint
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50