Mae canolfan ymwelwyr Abaty Ystrad Fflur bellach ar agor ac mae'n croesawu ymwelwyr bob dydd rhwng 10am a 4pm tan 31 Hydref 2025.
Dewch i ddarganfod sut mae partneriaeth rhwng Cadw ac Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn diogelu dyfodol y safle treftadaeth gwerthfawr hwn:
Canolfan ymwelwyr Ystrad Fflur yn ailagor yn sgil cefnogaeth leol | Cadw
Ewch i wefan Ystrad Fflur am ragor o wybodaeth: Ymweld â Ni
Abaty canoloesol crand lle claddwyd cenedlaethau o dywysogion Cymru
Saif abaty Ystrad Fflur neu Strata Florida – y Lladin am ‘Fro’r Blodau’ – ar ddolydd ffrwythlon wrth ymyl glannau afon Teifi ers 1201.
Fe’i sefydlwyd gan fynachod Sistersaidd mentyll gwynion yn rhan o fudiad a aeth fel ymchwydd ledled gorllewin Ewrop i gyd yn yr Oesoedd Canol cynnar. Cyn hir, yma oedd yr eglwys enwocaf yng Nghymru ar ôl Tyddewi – man pererindod ac echelbin diwylliant Cymru.
Clywir atsain mawredd yn ddigamsyniol ymhlith yr adfeilion. Yn y porth gorllewinol cerfiedig i’r abaty, cynigir golygfa aruthrol i lawr canol yr eglwys i’r man lle safai’r brif allor ar un adeg.
Mae rhai o’r teils addurnedig anhygoel a fuasai’n gorchuddio lloriau’r eglwys yn y golwg o hyd. Ceir griffoniaid, adar a gellesg o amgylch y ‘Dyn gyda’r Drych’ enigmatig. Tybir bod y ffigwr hwn o’r 14eg ganrif, a chrysbais a chwfl clos amdano, yn symbol o goegfalchder.
Ystrad Fflur yw man gorffwys olaf cenedlaethau o dywysogion canoloesol Cymru. Dywedir bod y bardd mawr Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu o dan ywen yn y fynwent. Nid yw’n syndod bod y lle wedi’i alw’n ‘Abaty San Steffan Cymru’.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am-4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Parcio am ddim ar gael i ymwelwyr.
Mynediad i bobl anabl
Mae'r Ganolfan Ymwelwyr yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau.
Mae maes parcio ar gael gerllaw a lle gollwng teithwyr y tu allan. Nid oes grisiau i fynd i mewn nac allan o'r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae'r tir wedi'i osod â glaswellt.
Gellir cysylltu â'r ceidwad i drefnu mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i'r safle drwy giât yr allanfa, sy'n llwybr gwastad cadarn sy'n arwain at adfeilion yr abaty.
Byrddau picnic a meinciau ar gael, 1 gyda rhan i gadair olwyn.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Siop roddion
Mae te, coffi, diodydd meddal a byrbrydau ar gael ynghyd ag amrywiaeth o gynnyrch, llyfrau ac anrhegion hardd a lleol.
Byrddau picnic
Byrddau picnic a meinciau ar gael, 1 gyda rhan i gadair olwyn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Mae'r maes parcio i ymwelwyr wedi'i leoli gyferbyn â'r heneb, ymhellach i fyny'r ffordd. Dylech fod yn ymwybodol bod cerbydau fferm yn defnyddio'r ffordd hon yn rheolaidd.
Defnyddiwch y maes parcio pwrpasol a pheidiwch â pharcio ar y ffordd ger yr abaty.
Mae'r safle hwn yn gymharol wastad ond mae sawl wal isel. Byddwch yn ofalus wrth archwilio'r ardaloedd hyn a pheidiwch â dringo ar yr olion.
Mae gris fechan i lawr i'r ardal lle mae’r beddau tuag at gefn y safle, er mwyn gweld y panel dehongli.
Bydd angen i chi gamu dros wal fechan; nid yw’n anodd, ond efallai y bydd angen cymorth gan bobl eraill.
Efallai y bydd angen i chi adael y llwybr a cherdded ar y glaswellt i weld rhai rhannau o'r abaty, os oes arnoch eisiau ei weld o bob ongl. Fodd bynnag, gellir gweld y rhan fwyaf o’r abaty o’r llwybr.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Cwymp sydyn
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost cadw@tfw.wales
Cyf Grid: SN746657. Lled/Hyd: 52.2754, -3.8382
what3words: ///enwebwyr.cofrestrau.tirwedd
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, ffôn 01974 831760 neu ewch i strataflorida.org.uk
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol