Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Muriau Tref Caernarfon

Blanced gysur Caernarfon

Peidiwch â diystyru muriau tref canoloesol Caernarfon. Heidio yma i weld y gaer fyd-enwog mae’r ymwelwyr, wrth reswm. Ond nid yw stori Caernarfon yn gyflawn heb gynnwys pennod ar ei chylch o furiau hynafol. Roedden nhw’n rhan hanfodol o gynllun Brenin Edward I i greu tref gaerog gyflawn i fewnfudwyr.

Mae’r cylch o furiau, sydd ag wyth tŵr a dau borth, bron yn gyflawn hyd heddiw. Roedd y muriau’n ymestyn am bron i hanner milltir, ac yn taflu blanced gysur o amgylch tref newydd Edward. 

Y Gât Ddwyreiniol oedd y brif fynedfa tua’r tir. Ac yn bartner iddi, ar ben arall y Stryd Fawr, mae’r Gât Orllewinol (neu’r Gât Ddŵr), y gellid ei chyrraedd o’r môr yn unig yn y 13eg ganrif. Gellir gweld rhai o rannau’r mur sydd yn y cyflwr gorau i’r gogledd o’r Gât Ddwyreiniol, ond er mwyn teimlo naws wreiddiol y dref ewch am dro ar hyd y cei neu ar hyd Stryd gysgodol Twll yn y Wal.

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 31st Mawrth Ar agor trwy gydol y flwyddyn

Ar agor drwy'r flwyddyn yng ngolau dydd 

Gellir ei gweld o'r tu allan

Am resymau diogelwch, ni cheir mynediad i'r muriau ar hyn o bryd

Gwybodaeth i ymwelwyr

Croeso i gŵn icon

Croeso i gŵn

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn ardaloedd penodol.    

Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael, fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. Peidiwch â dringo dros neu drwy unrhyw osodiad sefydlog. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant. 

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health & Safety 

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
 

Cyfarwyddiadau

Google Map
Ffordd: I’r Gog. o’r castell, Caernarfon
Rheilffordd: 16km/10mllr Bangor, llwybr Crewe-Bangor/Caergybi.
Beic: RBC Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn