Skip to main content

Arolwg

Cartref plentyndod arwres lenyddol a ffenestr arddangos i dirlun diwydiannol unigryw

Caiff Kate Roberts, y nofelydd a'r awdur straeon byrion, ei dathlu ledled Cymru fel ‘Brenhines ein Llên’.

Mae hi'n darlunio merched cadarn sy'n brwydro’n ystyfnig yn erbyn peryglon a thlodi yng nghymunedau chwareli gogledd-orllewin Cymru. Ac roedd hi'n gwybod am beth roedd hi'n ysgrifennu. Dyna oedd ei bywyd hithau hefyd.

Fe'i ganed yn 1891 a’i magu yng Nghae'r Gors, bwthyn a thyddyn chwarelwr cyffredin ar y llechweddau uwchlaw Dyffryn Nantlle ger Caernarfon. Y llecyn hwn luniodd ei dychymyg ac fe arhosodd gyda hi ymhell wedi iddi adael ei chartref yn 18 oed.

Ym 1965, pan ddarganfu fod Cae’r Gors yn adfail, ymgyrchodd yn ddiflino i'w achub. Yn 2007, roedd y lle wedi ei adfer o'r diwedd i’r hyn a fu adeg ei phlentyndod.

Nawr felly, gan ddechrau yn y ganolfan dreftadaeth y tu ôl i'r bwthyn, gallwch archwilio’i byd a cherdded drwy'r ystafelloedd bychain sy'n llawn lleisiau o'r gorffennol. Mae hyd yn oed ei llyfrau, ei chlocsiau a’i chlogyn yno i'ch atgoffa o'r cyfnod rhyfeddol hwn yn hanes diwydiannol Cymru.

Mwy am Gae'r Gors


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Newid cewynnau icon Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Toiledau   icon

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Cod post LL54 7EY


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 01286 831715 / 831413

E-bost
CaerGors@llyw.cymru

Cyfeiriad
Oherwydd problemau technegol, nid oes gan ein safleoedd fynediad i gyfrifiaduron. Ffoniwch ein safleoedd yn uniongyrchol neu anfonwch unrhyw e-byst at cadw@llyw.cymru

Cae'r Gors
Rhosgadfan, Caernarfon LL54 7EY