Castell Trefynwy
Arolwg
Adfail o gastell â hanes brenhinol
Mae’n syndod dod o hyd i’r adfail hwn, yn swatio felly mewn lôn oddi ar brif stryd siopa Trefynwy. Mewn safle strategol lle mae Afon Gwy ac Afon Mynwy’n croesi, dim ond ambell ddarn - adfeilion Tŵr Mawr y 12fed ganrif a neuadd y 13eg ganrif - sy’n weddill o’r castell pwysig hwn ers talwm. Fe’i sylfaenwyd yn yr 11eg ganrif gan yr arglwydd Normanaidd William fitz Osbern, ac erbyn canol y 14eg ganrif roedd yn nwylo Henry o Rysmwnt, a addasodd y tŵr â ffenestri addurnedig mawr y gellir gweld eu hamlinelliad o hyd yn wal y dwyrain.
Y digwyddiad hynotaf yn hanes y tŵr, ar 16 Medi 1387, oedd genedigaeth Brenin Harri V yma, a fyddai’n enwog am Frwydr Agincourt; coffawyd achlysur ei eni yn Sgwâr Agincourt Trefynwy.