Castell Dinbych

Castell grymus yn dwyn i gof ddrama rhyfela yn y canol oesoedd
Ar un adeg roedd y castell yn gartref brenhinol Dafydd ap Gruffudd ac yn dilyn cyrch ganddo ar Gastell Penarlâg gerllaw ysgogwyd Edward I, brenin Lloegr, yntau i drefnu ymosodiad ar raddfa fawr. Erbyn 1282 roedd Dinbych yn nwylo Cadlywydd y brenin, Henry de Lacy.
Bwriodd hwnnw ati’n syth i godi caer enfawr o garreg ynghyd â muriau tref eang yn union ar ben cadarnle Dafydd. Ond doedd y Cymry ddim am ildio. Ymosodwyd ar y castell oedd ar hanner ei godi ac fe’i cipiwyd ond, erbyn iddyn nhw ei adennill, roedd y Saeson wedi newid y glasbrint.
Codwyd y llenfuriau’n llawer uwch, ychwanegwyd y porthdy mawreddog a gosodwyd ‘cyrchborth’ dyfeisgar yn ei le – drws cyfrinachol diogel – fel y gallai unrhyw amddiffynwyr sleifio allan mewn argyfwng.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5% ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image











Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
3rd Ebrill - 2nd Tachwedd | 10am-5pm (Ar gau Mawr-Merch) |
---|---|
3rd Tachwedd - 31st Mawrth | 10am-4pm (Ar gau Llun–Iau) |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£6.50
|
|
Teulu* |
£20.70
|
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£4.50
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.80
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£6.20
|
|
Teulu* |
£19.80
|
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£4.30
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.50
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Mynediad drwy ffordd gul i faes parcio'r ystafell tua 100 metr o fynedfa'r castell.
Mae ardal barcio ceir wedi'i graeanu gyferbyn â'r castell sy'n dal tua 15 o geir.
Mae un lle parcio hygyrch.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Pwyntiau gwefru coir trydan
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau wedi'u lleoli yn y ganolfan ymwelwyr.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae yna lethr bach i fyny i'r castell o'r maes parcio, gan ddefnyddio'r prif lwybr troed a phont y castell Gall y bont fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.
Gall ymwelwyr fynd o amgylch yr heneb gan ddilyn llwybrau graean ac mae grisiau allanol yn cynnig mynediad i'r llwybr sy’n mynd ar hyd y wal uchaf. Defnyddiwch y canllawiau lle maen nhw ar gael. Gall y grisiau fod yn wlyb yn ystod tywydd gwael, gofynnwn i chi gymryd gofal wrth ddisgyn o'r lefel uchaf.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros na drwy unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod.
Peidiwch â dringo ar y castell, yn naturiol mae yna ardaloedd lle mae disgynfeydd cudd.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Osgowch gymryd llwybrau byr dros yr heneb, mae disgynfeydd cudd mewn rhai lleoliadau.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle Hill, Dinbych LL16 3NB
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01745 813385
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost DenbighCastle@llyw.cymru
Cod post LL16 3NB
what3words: ///cofiadur.gwranda.darlledwr
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.