Skip to main content

Arolwg

Cadarnle Normanaidd llawn cystal â chestyll gorau Cymru 

Os gwelwch Gastell Cydweli yn codi uwchlaw afon Gwendraeth yn niwl y bore, byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu. Hwn yw caer ganoloesol breuddwydion pawb.   

Dyna pam yr ymddengys, mae’n siŵr, yng ngolygfa gyntaf un ‘Monty Python and the Holy Grail’. Ond nid ar chwarae bach y buasai ymosod ar y cadarnle milwrol hwn.   

Dechreuodd Cydweli tua dechrau’r 12fed ganrif yn gastell ‘cylchfur’ Normanaidd wedi’i wneud o bren ac wedi’i amddiffyn gan glawdd pridd a ffos yn unig. Nid yw’n syndod ei fod dan ymosodiad cyson gan dywysogion Cymru gan gynnwys Arglwydd Rhys, a’i cipiodd ym 1159.

Bedwar degawd yn ddiweddarach, roedd y Normaniaid yn ôl wrth y llyw. Erbyn y 1280au, roedd y brodyr Chaworth, arglwyddi grymus y Mers, wedi creu’r ‘castell o fewn castell’ carreg sy’n dal i sefyll heddiw.  

Dychmygwch fod yn ymosodwr o Gymro. Yn gyntaf, byddai’n rhaid ichi orchfygu’r porthdy mawr gyda’i bont godi a phorthcwlis, a hithau’n bwrw saethau a chreigiau ar eich pennau. Petaech chi wedi torri’r amddiffynfeydd allanol hyn, byddech yn wynebu pedwar tŵr y cwrt mewnol. Dim ffordd ymlaen – a dim un man i guddio. Lladdfa go iawn. 

Ar ôl canrifoedd o wrthdaro yn ôl ac ymlaen rhwng goresgynwyr Normanaidd a thywysogion brodorol, roedd Cydweli yn awr lawn cystal ag unrhyw gastell yng Nghymru. Y porthdy a ychwanegwyd gan Ddugiaeth Gaerhirfryn a goronodd y cyfan. Ni allai lluoedd Owain Glyndŵr hyd yn oed dorri trwodd. 

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.80
Teulu*
£22.10
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.80
Pobl hŷn (Oed 65+)
£6.30

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£7.50
Teulu*
£24.00
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£5.30
Pobl hŷn (Oed 65+)
£7.00

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Newid cewynnau icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Cydweli — Canllaw Mynediad

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae tua 11 o leoedd parcio ar y safle.

Mae ardal parcio fawr am ddim o fewn pellter cerdded hawdd i'r heneb. Mae lle 1 parcio penodol i bobl anabl.

Mae'r brif fynedfa ar oleddf. Ceir mynediad ar hyd llwybr concrid llydan ag arwyneb gwrthlithro sy'n arwain at bont ddeltog bren.

Ceir mynediad i gadeiriau olwyn/bygi yn y ganolfan ymwelwyr a'r heneb.

Dim ond cerddwyr sy'n cael mynediad i lefelau uchaf yr heneb.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Cydweli ar hyd yr A484.
Rheilffordd
2km/1.2mllr Cydweli, ar lwybr Abertawe-Aberdaugleddau/Doc Penfro.
Bws
100m/110llath, llwybr Rhif X11/X12, Abertawe-Caerfyrddin.
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (400m/437llath).

Cod post SA17 5BQ

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
KidwellyCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Cydweli
Castle Rd, Cydweli SA17 5BQ

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01554 890104
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.