Capel y Rug
Rhaglen teithiau tywys yr haf newydd yn lansio gwanwyn 2025
Bydd Capel y Rug yn rhan o'n rhaglen teithiau tywys yr haf 2025 sy'n cynnig cyfle i archwilio hanes a diwylliant cyfoethog y lleoliad treftadaeth hynod ddiddorol hwn gyda'n tywyswyr arbenigol.
Cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr o wanwyn 2025.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr fel eich bod y cyntaf i gael gwybod am ein rhaglen teithiau tywys a sut i archebu tocynnau
Capel preifat afradlon arch-Frenhinwr a lynai at yr hen ffyrdd
Cerddwch drwy’r ardd brydferth o berlysiau, rhosynnau a lafant tuag at Gapel y Rug, capel carreg syml gyda’i ddrws bach bwaog – a pharatowch i gael eich rhyfeddu.
Y tu mewn mae rhyfeddodau sy’n gwbl groes i’r tu allan plaen. Wrth i’ch llygaid addasu i’r golau atmosfferaidd, fe welwch anifeiliaid cerfiedig gwych yn addurno’r waliau a’r meinciau - dreigiau cennog, seirff ac angenfilod mympwyol rhyfedd eraill.
Uwch eich pen mae’r to cerfiedig mawreddog wedi’i beintio â dyluniad blodeuog godidog ac mae pedwar angel pren wedi’u torri allan i warchod y lle. Mae pob arwyneb fel petai’n wledd o liwiau neu addurn afradlon.
Capel y Rug yw un o eglwysi prin yr 17eg ganrif sydd wedi osgoi ‘adferwyr’ y diwygiad Fictoraidd Gothig. Hwn oedd capel preifat y Cyrnol William Salesbury, neu ‘Hen Hosanau Gleision’ fel y’i gelwid yn annwyl.
Roedd yn Frenhinwr ffyddlon a amddiffynnodd Gastell Dinbych gerllaw am chwe mis enbyd yn ystod y Rhyfel Cartref cyn ildio’n anfodlon i luoedd seneddol. Tra bu eraill yn coleddu mathau symlach o addoli, byddai yntau’n gweddïo yma mewn ysblander eglwys uwch.
Bu farw Hen Hosanau Gleision yn 80 oed, wedi byw’n ddigon hir i weld y frenhiniaeth yn cael ei hadfer ym 1660 – felly hwyrach yr atebwyd ei weddïau.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar gau |
---|---|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Toiledau hygyrch
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Mae'r maes parcio 50 metr o'r ganolfan ymwelwyr ac mae lleoedd parcio i tua 30 o geir.
Mae un lle parcio penodol i bobl anabl ar gael.
Disabled person access
Ceir mynediad gwastad da o'r maes parcio i'r ganolfan ymwelwyr a'r capel.
Mae llawr y capel yn wastad. Mae grisiau yn arwain i'r galeri.
Mae'r maes parcio 50 metr o'r ganolfan ymwelwyr ac mae lleoedd parcio i tua 30 o geir.
Mae un lle parcio penodol i bobl anabl ar gael.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Cadair olwyn ar gael
Mae cadair olwyn ar gael i ymwelwyr ei defnyddio ar y safle hwn.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Gardd
Gardd ar y safle.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Byrddau picnic
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Tywyslyfr
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Corwen LL21 9BT
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01490 412025
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost Cadw@llyw.cymru
Cod post LL21 9BT.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Perthynol
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn