Skip to main content

Arolwg

Cadarnle Rhufeinig a ddaeth yn rhan o chwedl Gymreig

Sefydlwyd y gaer hon, gafodd ei lleoli’n strategol ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig, bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ac am dros dri chan mlynedd bu’r lle yn ferw o fywyd.

Seiliwyd Segontium gan Agricola yn OC77 wedi iddo lwyddo’n giaidd i rwystro gwrthryfel gan y llwyth brodorol a elwid yr Ordofigiaid. Roedd y gaer, a fwriadwyd ar gyfer dal catrawd o 1,000 o filwyr traed cynorthwyol, wedi’i chysylltu â'r prif ganolfannau llengol yng Nghaer a Chaerllion gan ffyrdd Rhufeinig.

Diolch i ddarnau arian a gloddiwyd, gwyddom fod y Rhufeiniaid wedi aros tan tua 394 OC – ni chafodd unrhyw gaer arall yng Nghymru ei dal am gyhyd. Roedd Segontium nid yn unig yn rheoli mynediad i Fôn ffrwythlon a mwynol gyfoethog, ond yn ddiweddarach bu’n gyfrwng i amddiffyn arfordir Cymru rhag môr-ladron Gwyddelig.

Ymhell wedi ymadawiad olaf y llengoedd, daeth Segontium yn rhan o chwedloniaeth y Cymry dan yr enw Caer aber Seint – ‘y gaer wrth geg afon Seiont' – a cheir cyfeiriad ati yn ‘Breuddwyd Macsen Wledig’, un o chwedlau hynafol y Mabinogi.

Mwy am Gaer Rufeinig Segontium


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm*

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

*Ar agor ac yn ddi-staff, gyda mynediad am ddim


Cyfleusterau

Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Llogi Safle icon

Mae parcio ar gael ar yr heol fawr ger yr heneb ar gyfer nifer fach o gerbydau

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 8 (1km/0.6mllr)

Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Cadw@llyw.cymru

Cyfeiriad
Segontium,
Ffordd Constantine, Caernarfon LL55 2LN

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01286 675072
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.