Y cerrig a dducpwyd o Segontium
Roedd siâp y gaer yn ddigon tebyg i gerdyn chwarae gydag amddiffynfeydd o bridd a phren, giatiau wedi'u gosod yn gymesur a strydoedd o adeiladau ffrâm bren.
Mae olion cysegr yn dal yn amlwg weladwy, a hynny ar ôl bron i ddwy fil o flynyddoedd, ynghyd ag ystafell ddiogel ar gyfer y gist gyflogau a'r basilica lle byddai'r pennaeth milwrol yn rhoi gorchmynion ac yn cynnal llysoedd marsial.
Does dim diolch am hynny i'r adeiladwyr canoloesol fu’n dwyn cerrig o Segontium i helpu codi castell godidog Edward I yng Nghaernarfon hanner milltir i ffwrdd.
Roedd anheddfa neu vicus yn amgylchynu’r gaer – hithau’n llawn o ddilynwyr gwersyll, masnachwyr ac, ymhen amser, teuluoedd milwyr. Yn y fan hon gallwch ddod o hyd i olion baddondy'r garsiwn, mansio (gwesty bychan) a theml i'r duw Mithras.