Yn fwy na swm ei rannau
Trefaldwyn yw un o’r cestyll sydd, hyd yn oed mewn adfail, yn cadw awyrgylch a phresenoldeb pwerus sy’n codi y tu hwnt i’w gyflwr presennol. Efallai mai ei leoliad sy’n gyfrifol am hynny, ar glegyr serth uwchben tref Sioraidd ddel gyda golygfeydd pellgyrhaeddol ar draws ffin Cymru.
Dechreuwyd ei adeiladu tua 1223 yn ôl gorchymyn Harri III mewn ymateb i bŵer cynyddol tywysog brodorol Cymru, Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr); cymerodd castell carreg Trefaldwyn le caer bren gerllaw o’r enw Hen Domen. Yn sefyll ar ei gefnen greigiog, roedd y gaer newydd hon yn llawer cadarnach ac yn fwy soffistigedig, gyda chwrt mewnol o garreg, ffynnon, ffosydd amddiffynnol dofn a phontydd codi’n eu croesi, a thref furiog.
Defnyddiwyd y castell yn barhaus am ganrifoedd, gan oroesi ymosodiadau gan Llywelyn ym 1228 a 1231 a mab Llywelyn, Dafydd, ym 1245. Daeth y castell i ben yn y pen draw yn ystod y Rhyfel Cartref, pan gwympodd i’r Seneddwyr ac fe’i dymchwelwyd ym 1649, gan adael dim ond y tyrrau brau a’r waliau isel sy’n sefyll heddiw.
| 1st Ebrill - 30th Medi | 10am - 6pm |
|---|---|
| 1st Hydref - 31st Mawrth | 10am - 4pm |
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. |
|
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Gall tua 15 car barcio ar y safle gydag 1 lle parcio penodol i bobl anabl (tua 100 metr).
Croeso i gŵn
Cŵn tywys yn unig
Pwyntiau gwefru coir trydan
Dau bwynt gwefru trydan Math 2 (22kW) ar gael ym maes parcio’r castell — tâl yn daladwy i’w defnyddio
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Rhaid croesi sawl pont bren i gyrraedd y castell. Bydd rhaid croesi gwaith carreg hanesyddol mewn ambell i le. Gall fod yn llithrig yma pan fo’n wlyb, felly byddwch yn ofalus.
Mae ffosydd dwfn o gwmpas y castell, felly peidiwch â dringo na mentro y tu hwnt i’r muriau allanol rhag i chi ddisgyn.
Rhaid mentro i lawr allt laswelltog serth i gyrraedd y ffos isaf.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Cwymp sydyn
Cerrig yn disgyn
Cod post SY15 6HN
what3words: ///heriwn.swrth.trwsiaf
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol