Skip to main content

Arolwg

Sgerbwd o olion anheddiad crefyddol unigryw 

Sylfaenwyd Talyllychau yn y 1180au gan Rhys ap Gruffydd (‘Arglwydd Rhys’, llywodraethwr brodorol teyrnas Deheubarth de Cymru) i fynachod yr urdd Bremonstratensaidd. Hwn oedd yr abaty cyntaf a’r unig abaty yng Nghymru i’r mynachod Premonstratensaidd, a oedd hefyd yn cael eu galw’n ‘Ganonau Gwynion’ oherwydd lliw eu habid.

Tŵr yr eglwys, sy’n sefyll bron i’w lawn uchder, yw’r nodwedd fwyaf trawiadol ar adfail yr abaty, na fwynhaodd byth gyfoeth a llwyddiant yr aneddiadau crefyddol Sistersaidd – a oedd yn eithaf helaeth ledled Cymru – a’i hysbrydolodd. Yn sgil diffyg cyllid, ni chwblhawyd yr eglwys erioed, er bod amlinelliad ei sylfeini’n arwydd o raddfa ac uchelgais ei dyluniad. Saif yr adfeilion mewn safle delfrydol wrth ymyl dau lyn Talyllychau.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Maes parcio icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae 2 le parcio, 2 fetr i ffwrdd ond nid oes lleoedd parcio i bobl anabl.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Talyllychau ar y B4302, 6m (9.7km) i’r Gog. o Landeilo
Rheilffordd
Llangadog 7m (11.3km)