Skip to main content

Arolwg

Mae’r ysgrifen ar y mur

Mae gwreiddiau Llangar ar goll yn niwl amser. Ond fe wyddom fod man addoli’n sefyll yma yn yr oesoedd canol. Ymhlith trysorau cudd Cymru, mae’n ysblennydd o arunig uwchben Afon Dyfrdwy. Ond beth sydd mor werthfawr amdano?

Fel Capel y Rug gerllaw, prin y mae Llangar yn awgrymu’r hyn sydd y tu mewn iddo.

Mae ei du allan plaen yn cuddio tu mewn disglair wedi’i addurno â murluniau ysblennydd o’r 14eg a’r 15fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod gwaith adfer, yn cyfleu popeth o sgerbwd yn cario gwaywffon i’r Saith Bechod Marwol. Gallwch hefyd edmygu’r hen drawstiau, oriel y clerwyr, seddau caeedig coeth a bedyddfaen carreg. 


Amseroedd agor


Cyfleusterau

Llogi Safle icon

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Dilynwch yr A5 i’r gog-orll. tuag at y B4401. 2km/1.2 milltir i’r de-orll. o Gorwen. Mae’r eglwys 300m/330 llath ar droed oddi ar y B4401
Rheilffordd
Wrecsam 35km/22mllr Llinell Caer-Amwythig.
Bws
2km/1.2mllr, gwasanaeth 94 Wrecsam - Dolgellau - Y Bermo

Cod post LL21 9BT

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50