Mae gwreiddiau Llangar ar goll yn niwl amser. Ond fe wyddom fod man addoli’n sefyll yma yn yr oesoedd canol. Ymhlith trysorau cudd Cymru, mae’n ysblennydd o arunig uwchben Afon Dyfrdwy. Ond beth sydd mor werthfawr amdano?
Fel Capel y Rug gerllaw, prin y mae Llangar yn awgrymu’r hyn sydd y tu mewn iddo.
Mae ei du allan plaen yn cuddio tu mewn disglair wedi’i addurno â murluniau ysblennydd o’r 14eg a’r 15fed ganrif a ddatgelwyd yn ystod gwaith adfer, yn cyfleu popeth o sgerbwd yn cario gwaywffon i’r Saith Bechod Marwol. Gallwch hefyd edmygu’r hen drawstiau, oriel y clerwyr, seddau caeedig coeth a bedyddfaen carreg.
Teithiau am 11am.
Nid oes angen archebu lle.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
11:00 - 12:00
|