Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Tref Rufeinig Caer-went

Hysbysiad Ymwelwyr

Ni chaniateir gwersylla dros nos ar dir Tref Rufeinig Caer-went. Mae hyn yn cynnwys pebyll, faniau gwersylla a chartrefi modur.

Cipolwg ar dref farchnad wedi’i Rhufeinio

Hwyrach mai ei lleoliad cysglyd yn y gororau gwledig diarffordd yw’r rheswm pam mai Caer-went, Venta Silurum i’r Rhufeiniaid, yw un o’r cyfrinachau hynny a gadwyd orau. Heb os, mae Caerllion (Isca) gerllaw, un o drefi Rhufeinig pwysicaf Prydain, wedi dwyn ei chlodydd. Roedd Caer-went, a sefydlwyd tua 75-80 OC, yn anheddiad i’r Silwriaid, llwyth brodorol a gafodd ei Rufeinio yn dilyn goresgyniad Prydain.

Roedd yn lle prysur ynghyd â baddondai cyhoeddus, ar wasgar mewn grid Rhufeinig trefnus nodweddiadol. Mae’r olion trawiadol yn cynnwys waliau sy’n dal i sefyll hyd at 17 troedfedd / 5m, tai wedi’u datgloddio, ynghyd â marchnadfa a theml Brythonaidd-Rufeinig.

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 31st Mawrth 10am - 4pm

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mynediad i feiciau icon

Mynediad i feiciau

Maes parcio icon

Maes parcio

Bob dydd 10am–4pm

Ni chaniateir gwersylla dros nos ar dir Tref Rufeinig Caer-went. Mae hyn yn cynnwys pebyll, faniau gwersylla a chartrefi modur.

 

Mynediad i bobl anabl icon

Mynediad i bobl anabl

Sylwch fod maes parcio a thoiledau Porth Gorllewin Caer-went ar gau ar hyn o bryd.

Croeso i gŵn icon

Croeso i gŵn

Toiledau   icon

Toiledau

Bob dydd 10am–4pm

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol

Byrddau picnic icon

Byrddau picnic

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Mae rhannau o'r heneb hon i'w gweld drwy’r dref i gyd. Mae'r llwybr yn dechrau trwy groesi'r briffordd ac yn parhau hyd at ddechrau'r rhan sydd â wal o’i chwmpas.

Rhaid dringo sawl set o risiau er mwyn cael mynediad i ben y waliau. Gall y llwybr glaswelltog fynd yn llithrig mewn tywydd gwlyb, felly argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau sy’n addas ar gyfer y safle a'r tywydd. Oherwydd bod cyflwr y waliau wedi dadfeilio, cynghorir ymwelwyr i aros yng nghanol y llwybr.

Mae hefyd yn bosibl cerdded o dan y waliau ar hyd llwybr glaswelltog is, sydd yn fwy hygyrch. Mae'r llwybr yn cynnwys sawl ardal lle mae olion y gwersyll; cynghorir eich bod yn cymryd gofal gan na fydd trothwyon isel yn weladwy ar adegau. Dylid osgoi dringo ar neu dros y gwaith cerrig.

Tra byddwch chi’n ymweld â'r fforwm a'r basilica mae cyfle hefyd i ymweld â'n dolydd. Cadwch at yr arwyddion sydd i’w gweld yn yr ardal hon.

Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health and Safety

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru

Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.

Camau serth ac anwastad icon

Camau serth ac anwastad

Cwymp sydyn icon

Cwymp sydyn

Wyneb llithrig neu anwastad icon

Wyneb llithrig neu anwastad

Cerrig yn disgyn icon

Cerrig yn disgyn

Cyfarwyddiadau

Google Map
Ffordd: Dilynwch yr arwyddion oddi ar yr A48 rhwng Casnewydd a Chas-gwent
Rheilffordd: Cil-y-coed 4km/2.4mllr
Bws: Llwybr rhif 73 Casnewydd –Cas-gwent
Beic: RBC Llwybr Rhif 4 (0.3mllr/0.4km)

Cod post NP26 5BA

what3words: ///pabell.cyfandirol.gwelw

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn