Mae Calan Gaeaf ar gyfer oedolion hefyd!
Ymunwch â'n storïwyr yn Ysgubor Caerwent am noson o straeon ysbryd a llên gwerin o Went a thu hwnt.
Bydd y straeon yn dechrau am 7pm ac fe'ch cynghorir i gyrraedd 10 munud cyn hynny. Mae tocynnau’n cynnwys diod boeth am ddim ar ôl cyrraedd.
Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad yma, felly mae archebu tocyn o flaen llaw yn hanfodol (addas i oedolion yn unig).
***Dewch â thortsh gyda chi gan nad oes gan y maes parcio a'r ardal o amgylch y ganolfan ymwelwyr oleuadau tu allan***
Bydd y digwydd yma’n cael ei gynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Heol Caerwent, ger Pound Lane.
Trowch i mewn i'r maes parcio rhad ac am ddim ac fe welwch chi’r adeilad ar yr ochr dde.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Gwen 30 Hyd 2026 |
19:00 - 20:30
|
| Archebwch | |