Castell Caerffili

Hysbysiad Ymwelwyr
Prosiect Adfywio Castell Caerffili
Bydd Castell Caerffili ar gau o ddydd Llun 17 Mawrth tan ddydd Iau 17 Ebrill fel rhan o'n Prosiect Adfywio Castell Caerffili parhaus. Bydd y siop anrhegion yn aros ar agor, ond ni fydd mynediad i'r castell na'r tiroedd.
Bydd Castell Caerffili yn ailagor ddydd Gwener 18 Ebrill 2025.
Oherwydd ein bod yn parhau gyda’r gwaith ailddatblygu sylwch os gwelwch yn dda na fydd toiledau ar gael i ymwelwyr ar dir y castell; mae'r toiledau agosaf yn Ffos Caerffili sydd ar agor o 9am.
Bydd pob ymwelydd yn cael gostyngiad o 10% ar bris mynediad ac arweinlyfr am ddim i’r castell gan y bydd rhai ardaloedd ar gau neu fynediad wedi ei chyfyngu tra ydym yn parhau i osod system dehongli sain / lluniau newydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm:
E-bost: CaerphillyCastle@llyw.cymru
Ffôn: 03000 252239
Bwriadu ymweld â Chastell Caerffili? Defnyddiwch ein map defnyddiol i wneud y mwyaf o’ch ymweliad!
Arswyd rhag tywysog Cymru wedi ysbrydoli castell canoloesol grymusaf Cymru
Ni adeiladodd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Caerffili. A dweud y gwir, ceisiodd ei ddymchwel ddwywaith cyn iddo gael ei gwblhau. Ond ef, yn sicr, a’i hysbrydolodd.
Yn sgil esgyniad nerthol Dywysog Cymru, argyhoeddwyd Arglwydd y Mers, Gilbert de Clare, fod angen caer arno a honno ar frys. Ac roedd yn well iddi fod yn gwbl aruthrol.
Felly o 1268 adeiladodd de Clare y castell mwyaf yng Nghymru – a hwnnw’n ail yn unig i Windsor ym Mhrydain oll. Cyfunwyd waliau, tyrau a phorthdai enfawr ag amddiffynfeydd dŵr helaeth i orchuddio 30 erw i gyd.
Mae hynny deirgwaith cymaint â chadarnle Cymru gyfoes, sef cartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality.
Pan fu farw Llywelyn, trawsnewidiwyd y gaer flaenaf hon yn gartref gwych a chanddo barc hela a llyn gogleddol. Fe’i trosglwyddwyd i ddwylo ffefryn creulon a barus Edward II, Hugh Despenser, a ailwampiodd y neuadd fawr mewn modd addurniedig.
Erbyn hynny, rhaid bod Caerffili yn ymddangos fel rhyw gastell chwedlonol yn arnofio mewn llyn hudol, effaith a gryfhawyd yn rhyfedd gan bowdwr gwn y Rhyfel Cartref a adawodd tŵr y de-ddwyrain ar ongl ansicr.
A dweud y gwir, mae’n siŵr mai Tŵr Cam Cymru – sy’n gwyro mwy na thŵr Pisa hyd yn oed – yw nodwedd anwylaf y castell.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm |
1st Tachwedd - 29th Chwefror | 10am–4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£11.90
|
|
Teulu* |
£38.10
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£8.30
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£10.70
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). Nid yw tocynnau ar-lein i’w cael ar hyn o bryd – os gwelwch yn dda, prynwch eich tocynnau pan fyddwch yn cyrraedd y safle. |
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£12.40
|
|
Teulu* |
£40.00
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£8.60
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£11.10
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). Nid yw tocynnau ar-lein i’w cael ar hyn o bryd – os gwelwch yn dda, prynwch eich tocynnau pan fyddwch yn cyrraedd y safle. |
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£11.90
|
|
Teulu* |
£38.10
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£8.30
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£10.70
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). Nid yw tocynnau ar-lein i’w cael ar hyn o bryd – os gwelwch yn dda, prynwch eich tocynnau pan fyddwch yn cyrraedd y safle. |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
I gael gwybodaeth hygyrchedd, cysylltwch â’n tîm castell yn: CaerphillyCastle@llyw.cymru
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae meysydd parcio talu ac arddangos arhosiad byr a hir ar gael; mae’r maes parcio arhosiad byr tua 110m i ffwrdd. Mae’r maes parcio arhosiad hir tua 500m i ffwrdd. Mae lleoedd parcio penodol ar gael ar gyfer pob anabl. |
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar lefelau gwaelod y castell pan fyddant ar dennyn. Gall rhai ardaloedd fod ar gau pan fyddwch yn ymweld gan fod gwaith adnewyddu yn digwydd ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm os gwelwch yn dda.
Ffôn: 02920 883143
E-bost: CaerphillyCastle@llyw.cymru
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Trwydded seremoni sifil
Noder: Nid yw Neuadd Fawr Castell Caerffili ar gael ar gyfer priodasau tan 2025.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Nid yw Castell Caerffili ar gael ar hyn o bryd i’w logi ar gyfer digwyddiadau, ffilmio ac arddangosfeydd oherwydd y gwaith ailddatblygu parhaus.
Cyflwyniad fideo
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle St, Caerffili CF83 1JD
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 02920 883143
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost CaerphillyCastle@llyw.cymru
Cod post CF83 1JD
what3words: ///peiriannau.gofalus.cymharu
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50