Skip to main content

Am noson heb y plantos, teithiwch gyda ni o amgylch perimedr Castell Caerffili, a chewch eich swyno gan chwedlau am ysbrydion a straeon hanesyddol!

Ymunwch â ni ar 25 neu 30 Hydref i fynd am dro o amgylch y ffos ddofn, dywyll. 

Cofiwch fod y teithiau hyn yn deithiau awyr agored ar hyd gwahanol lwybrau allanol, a byddant yn digwydd ym mhob tywydd. (Bydd y teithiau yn yr awyr agored yn unig a bydd y castell ei hun ar gau.)

Bydd y tir yn anwastad mewn mannau - felly mae'n hanfodol bod dillad ac esgidiau priodol yn cael eu gwisgo. 

Dewch â thortsh hefyd, oherwydd byddwn yn archwilio rhai mannau tywyll iawn o amgylch y castell.

Mae angen archebu ar-lein. 

Oedolion yn unig.


Prisiau

£20

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 25 Hyd 2024
19:00 - 20:30
21:00 - 22:30
Mer 30 Hyd 2024
20:00 - 21:30
Archebwch
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Caerffili