Skip to main content

Arolwg

Cawr ar y ffin 

Mae Grysmwnt yn aelod o driawd enwog o gadarnleoedd. Ynghyd ag Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn, mae’n un o ‘Dri Chastell Gwent’ a adeiladwyd gan y Normaniaid i reoli rhan allweddol o ffindir trwblus. Cafodd y cadarnle pridd a choed gwreiddiol, a adeiladwyd ar gros mhont (Ffrangeg am ‘fryn mawr’), ei ddisodli’n ddiweddarach â charreg. Cafodd fywyd gweithgar.

Yn y 13eg ganrif cafodd ei ailadeiladu gan gynnwys y porthdy a’r tyrau cylchol. Yn sgil ailfodelu ganrif yn ddiweddarach, cafodd Grysmwnt randai yn addas i aelwyd fonheddig, ond erbyn y 15fed ganrif roedd y castell yn ei chanol hi eto, dan warchae yn y gwrthryfel dan arweinydd carismatig y Cymry, Owain Glyndŵr.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Grysmwnt, ar y B4347, 10m (16.1km) i’r Gog. Orll. o Drefynwy, 9m (14.5km) i’r Gog. Ddwy. o’r Fenni
Beic
RBC Llwybr Rhif 46 (0.2m/0.3km)

Cod post NP7 8EP

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50