Cadw Cymru Minecraft
Oeddech chi'n gwybod bod Minecraft Education ar gael drwy Hwb, a bod Cymru ar y blaen wrth ddefnyddio Minecraft Education mewn lleoliadau Addysg.
Dyma rywbeth Newydd!
Mae Cadw Cymru yn gynnyrch addysgol arloesol newydd sy'n cyfuno amgylchfyd rhithwir Minecraft â hanes cyfoethog safleoedd treftadaeth Cymru. Ynghyd â Phecyn Adnoddau Cymraeg newydd Minecraft Cadw Cymru, mae'n cynnig arf cyffrous i ymarferwyr yng Nghymru i ymgysylltu dysgwyr â'u hanes cenedlaethol mewn ffordd ryngweithiol ac ymdrochol.
Mae Cadw Cymru yn brosiect addysgol unigryw sy'n defnyddio gêm boblogaidd Minecraft i ddod â hanes Cymru yn fyw.
Wedi'i datblygu mewn cydweithrediad â haneswyr, ymarferwyr a dylunwyr digidol, mae'r rhaglen yn ail-greu safleoedd treftadaeth eiconig Cymru o fewn Minecraft Education. Mewn fformat digidol deniadol, mae'r mannau rhithwir hyn yn caniatáu i ddysgwyr archwilio a dysgu am safleoedd hanesyddol, fel cestyll, abatai ac adfeilion hynafol.
Mae'r enw "Cadw" yn Gymraeg yn gallu golygu "gwarchod" neu "amddiffyn," sy'n adlewyrchu cenhadaeth y prosiect i warchod a hyrwyddo treftadaeth Cymru. Drwy ddefnyddio Minecraft, gêm sydd eisoes yn boblogaidd ymysg dysgwyr, mae Cadw Cymru yn darparu llwyfan cyfarwydd a chyffrous i feithrin ymdeimlad dwfn o gynefin ac ymgysylltiad addysgol.
A nawr gallwch hefyd ddatgloi byd bywiog Minecraft Education o'r newydd gyda Phecyn Adnoddau Cymraeg Minecraft Cadw Cymru!
Mae Pecyn Adnoddau Cymraeg Minecraft Cadw Cymru yn becyn adnoddau y gellir ei lawrlwytho ar gyfer Minecraft Education sydd wedi'i gynllunio i drawsnewid sut mae dysgwyr yng Nghymru yn rhyngweithio gyda Minecraft Education. Mae'r pecyn adnoddau arloesol hwn yn trawsnewid profiad cyfan Minecraft Education yn antur Gymraeg ymdrochol am y tro cyntaf erioed. Mae pob elfen wedi'i gyfieithu'n ofalus o iaith yn y gêm, dewislenni, a disgrifiadau rhestr manwl. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr sy’n siarad Cymraeg yn gallu llywio ac archwilio'r gêm yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, gan ei gwneud yn hollol gynhwysol!
Sut fyddwch chi'n ymgorffori'r cynnig trawsgwricwlwm cyffrous hwn yn eich lleoliad dysgu? Cliciwch ymlaen i gael gwybod mwy am Cadw Cymru a Phecyn Adnoddau Cymraeg Minecraft Cadw Cymru ac i gael mynediad i'r adnoddau ar Hwb.
Edrychwn ymlaen at weld sut rydych yn ymgysylltu â Cadw Cymru a Phecyn Adnoddau Cymraeg Minecraft Cadw Cymru. Rhannwch eich delweddau o'ch anturiaethau a’r hyn rydych yn ei adeiladu @cadw.wales
Canllawiau ar sut mae lawrlwytho a defnyddio Minecraft Education
Adnoddau difyr a defnyddiol ar gyfer dysgu gartref
Adnoddau AddysgBeth nesaf!
Pan fyddwch chi wedi archwilio'r henebion yn Cadw Cymru Minecraft ac efallai wedi adeiladu mwy yn y gofod digidol, beth nesaf?
Gallech ymweld ag un o'n henebion gyda'ch ysgol, grŵp, neu gyda'ch teulu, neu ffrindiau – gweler Ymweliadau Addysg neu Ble hoffech chi fynd?, ac efallai y byddwch hyd yn oed am Ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio ein gwefannau. Efallai y bydd wedi eich ysbrydoli i ddod yn Warchodwr Treftadaeth, neu wedi ysgogi eich ysgol neu’ch grŵp i wneud cysylltiadau agosach â'ch heneb leol, i'w defnyddio fel ystafell ddosbarth awyr agored – ac efallai y byddwch am gofrestru i ddod yn un o Geidwaid Ifanc Cymru. Os felly, rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yn un o’n henebion neu glywed am eich anturiaethau.
Neu, efallai y gallech geisio mynd â'ch dysgu digidol i brosiectau ffisegol, ac efallai bod yn greadigol! Gweler Celf, Crefftau a Chreadigrwydd am Syniadau. Efallai, gallech roi cynnig ar adeiladu cofeb neu adeilad lleol o ddiddordeb hanesyddol neu ddiddordeb dreftadaeth mewn blociau ffisegol, hyd yn oed bocsys cardbord. Isod fe welwch rai syniadau i ddod â'ch dychymyg yn fyw:
- Creu atgynhyrchiad bychan - Edrychwch ar ein cyfarwyddiadau penodol ar sut i adeiladu atgynhyrchiad bychan o gastell a gafodd eu llunio gan Andy Morris o Little Big Art.
- Fideos 'Sut i' - Ydych chi am greu eich castell eich hun? Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy wylio’r gyfres yma o fideos sy’n dangos sut y gallwch ail-greu eich castell eich hun.
- Castell Caernarfon — fideo treigl amser - Gwyliwch wrth i Gastell Caernarfon gael ei ail-greu gan ddefnyddio 70,000 o frics Lego yn y fideo treigl amser anhygoel hwn.
- Codi Castell Rhuddlan — fideo o amser yn mynd heibio - Gwyliwch wrth i waliau eiconig Castell Rhuddlan godi o 50,000 o frics Lego yn y fideo treigl amser anhygoel hwn.
Ymwadiad: Nid yw'r rhain yn cael eu noddi, eu hawdurdodi na'u cymeradwyo gan LEGO®. Mae LEGO® yn nod masnach Grŵp cwmnïau LEGO.