Skip to main content
Blwyddyn Llwybrau / Wales by Trails Logo

Eleni, rydyn ni’n annog trigolion Cymru ac ymwelwyr fel ei gilydd i grwydro Cymru, trwy Lwybrau.

Fel rhan o ymgyrch ehangach Croeso Cymru, mae ein 131 o leoliadau hanesyddol yn cynnig popeth o gestyll eiconig sy’n sefyll fry uwchben Llwybr Arfordir Cymru, i safleoedd treftadaeth a amgylchynir gan goedwigoedd hynafol.

Beth bynnag rydych chi am ei archwilio, mae’r ymgyrch yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan a dod yn ‘ddilynwyr llwybrau’ treftadaeth ar safleoedd hanesyddol godidog Cymru.

Er mwyn gwneud yr holl grwydro’n haws, rydyn ni wedi cyflwyno rhai o’n teithiau treftadaeth fel Mapiau Stori rhyngweithiol, digidol. Mae pob taith dreftadaeth yn cynnwys casgliad o henebion ac yn rhoi cefndir byr a lleoliad pob un daith, gan eich helpu i gynllunio eich anturiaethau hanesyddol ac ymweld â chynifer o safleoedd Cadw â phosib.

Sut i ymweld

Os byddwch chi’n ymweld â nifer o safleoedd Cadw yr haf hwn, mae ein Tocynnau Crwydro 3 a 7 diwrnod yn cynnig mynediad diderfyn i leoliadau hanesyddol Cadw dros 3 neu 7 diwrnod. Gallwch brynu eich tocynnau yn ein canolfannau ymwelwyr.

Tocynnau Crwydro 

Neu ymunwch â Cadw fel aelod a mwynhau mynediad diderfyn drwy gydol y flwyddyn i 131 o henebion hanesyddol ledled Cymru, ynghyd â chael mynediad hanner pris i holl eiddo English Heritage a Historic Scotland yn eich blwyddyn gyntaf.

Ymunwch a Cadw heddiw 

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn