Skip to main content

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â llwybr troed sy’n rhychwantu ei harfordir cyfan — ac yn 2022 mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers ei lansio’n swyddogol.

I nodi’r achlysur a dathlu’r amrywiaeth eang o safleoedd treftadaeth ar hyd y llwybr 870 milltir, rydym wedi partneru â Llwybr Arfordir Cymru a Deiniol Tegid — un o gerddwyr brwd Llwybr Arfordir Cymru.

Gyda’i gilydd, rydym wedi creu cyfres o 20 o deithiau pwrpasol — gan amlinellu’r llwybrau cerdded gorau ar hyd yr arfordir lle gallwch ddarganfod 16 o gestyll Cymru, yn ogystal â detholiad eang o fryngaerau, cylchoedd cerrig a siambrau claddu.

Erbyn hyn, rydym i gyd yn gyfarwydd â’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â bod yn yr awyr agored. Dyma’r moddion perffaith i straen a phryderon bywyd modern — yn enwedig lle mae aer y môr.

Yn fwy na hynny, mae 88% o ymwelwyr Llwybr Arfordir Cymru yn cytuno bod defnyddio’r llwybr yn cyfrannu at eu gwerthfawrogiad o Gymru a’i diwylliant —a byddem yn eich annog i’w brofi drosoch eich hun, gan ddefnyddio’r teithiau hawdd eu dilyn hyn.

O gylchdaith Caergybi ym Môn, gan fynd drwy’r gaer Rufeinig a Pentref Cynhanesyddol Mynydd Twr, i lwybrau sy’n mynd drwy gaerau gwych fel Castell Talacharn a Chastell Cas-gwent — mae’r teithiau’n addas i bobl ym mhob lleoliad, o bob gallu, a daw pob un â map defnyddiol i’ch tywys ar hyd eich ffordd.

I gael mynediad i’r teithiau ac i gychwyn ar eich antur arfordirol hanesyddol nesaf, ewch i: https://www.walescoastpath.gov.uk/plan-your-visit/itineraries/cadw/?lang=cy