Skip to main content

Gweithredu

Er i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 ('Deddf 2023') ddod yn gyfraith pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym Mehefin 2023, ni ddaw i rym tan yn ddiweddarach yn 2024. Mae angen tri phrif faes gwaith i ategu’r gwaith o weithredu Deddf 2023.
 

Diagram gweithredu

Er bod is-ddeddfwriaeth sefydledig wedi ei hymgorffori yn narpariaethau Deddf 2023 ar lawer ystyr, bydd angen ail-wneud yr is-offerynnau - rheoliadau a gorchmynion — i adlewyrchu ac i ategu’r ddeddfwriaeth newydd. Dyma rai enghreifftiau: yng ngoleuni Deddf 2023, bydd angen ail-lunio'r rheoliadau presennol ar eithriad eglwysig, rheoliadau adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth 2012 a'r rheoliadau ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth.
  
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau polisi yn y rheoliadau a gaiff eu hailddatgan — felly bydd effaith y rheoliadau yn aros yr un fath. Mae hyn yn parhau'r dull a gymerwyd wrth gydgrynhoi'r Ddeddf, ond mae ystyriaethau pragmatig hefyd gan fod amser yn brin. 

Bydd angen i ni wneud gorchymyn cychwyn hefyd er mwyn dod â'r Ddeddf i rym. Bydd y gorchymyn hwnnw'n nodi'r dyddiad yn ddiweddarach yn 2024 pan ddaw'r Ddeddf i rym. Unwaith y gwneir y gorchymyn, ni ellir symud y dyddiad cychwyn hwnnw. Bydd y gorchymyn wedi ei wneud erbyn haf 2024, felly bydd y dyddiad cychwyn yn hysbys ymhell ymlaen llaw.

Mae cyfeiriadau at y ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol bresennol — yn enwedig Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 — wedi'u gwasgaru drwy dudalennau gwe Llywodraeth Cymru, cyhoeddiadau canllaw, a’r dogfennau templed. Gyda'r amser a'r adnoddau sydd ar gael, ni fydd modd darganfod, adolygu a diweddaru popeth i adlewyrchu deddfiad Deddf 2023 cyn i'r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym. 

Bydd ein gweithgaredd yn canolbwyntio felly ar ddiweddaru'r prif ganllawiau ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol:

Polisi Cynllunio Cymru
Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol
Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru
Cytundebau Partneriaeth Treftadaeth yng Nghymru
Rheoli Newid mewn Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru
Rheoli Newid i Addoldai Hanesyddol yng Nghymru
Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru
Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru
Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru
Rheoli Mynediad Hawdd i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru
Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru
Rheoli Adeiladau Rhestredig mewn Perygl yng Nghymru
Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru
Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru
Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Morol Cymru
Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru
Deall Rhestru yng Nghymru

Bydd angen diweddaru ffurflenni a ddefnyddir ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol yn rheolaidd, er enghraifft ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig neu heneb gofrestredig, yng ngoleuni'r Ddeddf newydd neu’r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig. 

Bydd angen gwneud rhai newidiadau hefyd i dudalennau gwe Llywodraeth Cymru i adlewyrchu Deddf 2023. Rydym eisoes wedi diweddaru ein tudalennau deddfwriaeth penodedig ar wefan Cadw yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol a bydd y tudalennau hynny'n cael eu datblygu ymhellach yn y misoedd i ddod. Bydd angen diweddaru'r tudalennau amgylchedd hanesyddol ar Cyfraith Cymru maes o law hefyd. 

Y maes gwaith olaf wrth weithredu'r Ddeddf yw gweithgarwch rhanddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr hyn y mae angen i randdeiliaid ei wneud cyn i’r Ddeddf gychwyn yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf, ond hefyd ein hymwneud â rhanddeiliaid i'w helpu i baratoi at y ddeddfwriaeth newydd.

Bydd yr hyn y bydd angen i randdeiliaid penodol ei wneud i baratoi at y cychwyn yn dibynnu ar eu rolau a'u gweithgareddau. Bydd angen i'r rhai sydd â rôl statudol, megis awdurdodau cynllunio, gyflawni gwaith tebyg i'r hyn sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, bydd angen iddynt ddiweddaru eu canllawiau a'u ffurflenni i gynnwys y ddeddfwriaeth newydd. Bydd angen i hysbysiadau templed ar gyfer gorfodi er enghraifft, gael eu hadolygu a’u diweddaru a chyfeirio at Ddeddf 2023. Bydd angen adolygu a diwygio gwefannau yn ôl yr angen hefyd. 

Efallai y bydd angen i randdeiliaid eraill, megis grwpiau trydydd sector o bosibl,  ymgyfarwyddo â'r Ddeddf newydd fel eu bod yn gwybod ble mae darpariaethau perthnasol wedi'u lleoli. Rydym yn argymell y dylid gwneud y gwaith hwn rhwng mis Ionawr a mis Medi 2024. 

Yn y misoedd cyn i’r Ddeddf gychwyn, ein bwriad yw datblygu'r wybodaeth sydd ar y tudalennau penodol ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd ar wefan Cadw. Erbyn i'r Ddeddf ddod i rym, ein nod yw cael amrywiaeth o ddeunydd a fydd yn ateb y rhan fwyaf o gwestiynau am y ddeddfwriaeth. Y wefan fydd ein prif gyfrwng ar gyfer lledaenu gwybodaeth am y Ddeddf.
 

Gan nad oes newid mewn polisi, dylem bwysleisio, unwaith y bydd Deddf 2023 ar waith, na fydd yn ofynnol i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y ddeddfwriaeth gymryd unrhyw gamau gweithredu na chamau penodol.