Sut i wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru
Mae her newid hinsawdd yn golygu bod angen i bawb weithredu.
Rydyn ni wedi creu canllawiau i unrhyw un sydd am wella effeithlonrwydd ynni adeilad traddodiadol neu hanesyddol. Mae rhesymau da dros wneud hyn, gan gynnwys gostwng allyriadau carbon a lleihau biliau tanwydd, ac yn aml gall wneud yr adeilad yn fwy cyfforddus i fyw neu weithio ynddo. Mae’n rhan o fyw'n fwy cynaliadwy hefyd.
Dyma ambell awgrym syml i gynyddu effeithlonrwydd ynni y gallwch eu rhoi ar waith heddiw i’ch rhoi ar ben ffordd:
- cadw'r adeilad mewn cyflwr da. Mae adeilad sych, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, yn llawer haws a rhatach i'w wresogi
- deall eich system wresogi a'i dull rheoli. Bydd hyn yn eich helpu i'w ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon. Mae astudiaethau'n dangos y gall hyn gael mwy o effaith ar leihau allyriadau na newidiadau i adeiladwaith yr adeilad. Trefnwch i’ch boeler gael ei wasanaethu’n rheolaidd a'i addasu i fod mor effeithlon â phosib
- troi'r thermostat i lawr 1 gradd canradd. Mewn cartref â system gwres canolog, gall hyn leihau eich ynni gwresogi 10% neu fwy bob blwyddyn
- newid i gyflenwadau ynni carbon is
- diffodd dyfeisiau yn y plwg pan nad ydych chi'n eu defnyddio, yn hytrach na’u rhoi ar 'standby' Mae ymchwil Nwy Prydain yn awgrymu y gallai hyn arbed hyd at 23% ar filiau trydan
- peidio â gadael gwefrwyr wedi'u plygio i mewn i'ch dyfeisiau ar ôl gwefru'n llawn
- lleihau gwastraff. Er enghraifft, aros nes bod eich peiriant golchi llestri neu'ch peiriant golchi dillad yn llawn cyn eu rhoi ymlaen a dim ond berwi'r hyn o ddŵr sydd ei angen arnoch
- gosod deunyddiau atal drafftiau. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o leihau eich biliau ynni a gwneud eich adeilad yn fwy clyd. Cofiwch adael digon o gyfleoedd awyru i atal lleithder rhag cronni, a sicrhau amgylchedd iach dan do
- inswleiddio'r atig, ond meddyliwch am y deunyddiau rydych chi'n eu defnyddio. Fel pob deunydd adeiladu, mae gan ddeunydd insiwleiddio'r hyn a elwir yn 'garbon ymgorfforedig' - y CO2 sy'n gysylltiedig â'i weithgynhyrchu a'i gludo. Mae dewis deunyddiau â charbon isel ymgorfforedig yn lleihau effeithiau amgylcheddol
- adnewyddu neu ailosod caeadau ffenestri coll, ychwanegu llenni a bleindiau. Mae caeadau wedi'u haddasu gydag insiwleiddio yn gallu lleihau'r gwres a gollir 60% pan fyddant ar gau. Gyda gwydr dwbl, mae hyn yn cynyddu i 77%.
Mae canllawiau "Sut i Wella Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Hanesyddol" ar gyfer perchnogion a rheolwyr adeiladau hanesyddol. Maent yn disgrifio'r 'dull adeilad cyfan' o lunio a gweithredu gwelliannau effeithlonrwydd ynni:
- sy'n osgoi difrodi pwysigrwydd yr adeilad
- sy'n effeithiol, yn gosteffeithlon, yn gymesur ac yn gynaliadwy
- sy'n sicrhau amgylchedd iach a chyfforddus i breswylwyr
- sy'n lleihau risg canlyniadau anfwriadol.
Maent yn ystyried y ffactorau sy'n dylanwadu ar lefelau'r defnydd o ynni mewn adeiladau hanesyddol ac yn esbonio holl broses cynllunio ynni adeilad yn fanwl. Maent yn cynnwys rhestrau gwirio mesurau effeithlonrwydd ynni hefyd, a allai fod yn addas fel rhan o'r dull hwn, gyda dolenni i ffynonellau gwybodaeth dechnegol fanylach ar uwchraddio elfennau o adeilad megis toeau, waliau a lloriau.
Y gred gyffredinol yw nad yw adeiladau hŷn yn defnyddio ynni'n effeithlon a bod rhaid eu huwchraddio'n sylweddol er mwyn gwella eu perfformiad. Yn ymarferol, mae'r sefyllfa'n fwy cymhleth, a does dim cyfiawnhad bob amser dros ragdybio perfformiad gwael. Er hynny, mae modd gwella perfformiad ynni a charbon y rhan fwyaf o adeiladau. Ac mae arbedion bach yn cronni'n gyflym.