Baddondy Rhufeinig Caerllion
Hysbysiad ymwelwyr
Os ydych chi’n bwriadu ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru (rhan o Amgueddfa Cymru), gwiriwch yr amseroedd agor a’r gofynion cyfredol o ran tocynnau.
Gwefan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Diolch.
Bywyd moethus a gwaedlyd y gaer Rufeinig
Roedd bywyd yn galed i lengfilwr Rhufeinig yng Nghymru’r ganrif gyntaf. Pan na fyddai wedi’i gau yn ei farics neu’n goddef cyfarth canwriad, byddai allan yn mentro ei fywyd mewn ysgarmesau â Brythoniaid hynafol.
Ond yma yn Isca, un o dair lleng-gaer barhaol yn unig ym Mhrydain, gwnaethpwyd iawn am hyn oll. Gallai’r llengfilwr bob amser dreulio amser gyda’i ffrindiau ym maddonau’r gaer – neu fynd am dro i’r amffitheatr i wylio’r gladiatoriaid.
Mewn adeilad modern dan do yng Nghaerllion heddiw, gallwch archwilio olion y pwll nofio awyr agored, neu natatio eang, a arferai ddal mwy na 80,000 galwyn o ddŵr. Yn sgil rhyfeddodau taflunio ffilm, cewch gipolwg ar filwr Rhufeinig yn dal i blymio i’r dyfnderoedd heddiw.
Cewch hefyd weld yr ystafelloedd cyfyng lle cysgai’r dynion a lle cadwent eu harfau – yr unig farics llengol Rhufeinig sydd i’w gweld o hyd yn Ewrop.
A gallwch gerdded drwy fynedfa fawr y gogledd i’r amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygu mwstwr 6,000 o bobl yn udo am waed.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image Expand image Expand image Expand imageAmseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–5pm |
---|---|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Fel arfer, yr amseroedd tawelach ar gyfer ymweld yw yn hwyrach yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol. |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£5.30
|
Teulu* |
£17.00
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£3.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.10
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Cŵn tywys yn unig
Cŵn tywys yn unig yn y safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Maes parcio talu ac arddangos gyferbyn â'r baddonau, tua 20 o leoedd.
Dim maes parcio hygyrch penodol
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Lluniaeth
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Tywyslyfr
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Cyflwyniad fideo
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Grwpiau ysgol ac addysgwyr cartref
Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn cydlynu'r holl archebion ar gyfer ymweliadau addysgol ar gyfer ymweliadau safle ac amgueddfeydd Cadw cyfunol yng Nghaerllion.
I archebu eich ymweliad ffoniwch 02920 573546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk
Ewch i wefan yr Amgueddfa Genedlaethol am fwy o wybodaeth.
Teuluoedd maeth, Tempo, Timebanking UK a Grwpiau Eraill â Chymorth: cysylltwch â ni yn uniongyrchol i archebu eich ymweliad: 01633 422518
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
High St, Caerleon, Casnewydd NP18 1AE
Ar gyfer contractwyr a danfoniadau, ffoniwch 01633 422518
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
Cod post NP18 1AE
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50