Hwyl Pasg
Mae Penwythnos Hwyl y Pasg Castell Biwmares yn ôl am benwythnos llawn hwyl i bawb.
Ymunwch â gweithdai syrcas ar gyfer yr hen a'r ifanc i roi cynnig ar driciau newydd. Gwyliwch cellweiriwr y castell wrth iddo eich diddanu gyda'i driciau anturus a fydd yn siŵr o’ch syfrdanu.
Gwersyll canoloesol ac arddangosiadau o fywyd yn yr oesoedd canol. Gyda saethwyr, dril gwaywffon, a chyfle i roi cynnig ar arfwisg.
Dydd Sul a dydd Llun - bydd Helfa Wyau Pasg, lle gallwch ddod o hyd i'r cliwiau, meddwl am atebion a dianc o'r castell i hawlio'ch gwobr.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 18 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sad 19 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sul 20 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Llun 21 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|