Skip to main content

Ydych chi’n angerddol am ffotograffiaeth, hanes a dal harddwch safleoedd Cadw? Rydyn ni’n eich gwahodd i rannu eich ffotograffau gorau o henebion Cadw am gyfle i ymddangos yng Nghalendr Cadw 2026!

Byddem wrth ein bodd yn gweld sut rydych chi’n dal ein safleoedd trwy eich lens. O olygfeydd godidog, syfrdanol i fanylion diddorol yr anghofir amdanyn nhw, rydyn ni’n chwilio am ddelweddau trawiadol sy’n arddangos ein hadeiladau a’n safleoedd archeolegol yn eu holl ogoniant.

P’un a ydych chi wedi ymweld â chastell enwog, wedi archwilio heneb hynafol, neu wedi dod ar draws trysor cudd, rydyn ni am weld eich eiliadau Cadw unigryw. Rydyn ni hefyd am weld amrywiaeth o ffotograffau sy’n cwmpasu’r holl dymhorau, felly anfonwch eich lluniau o’n safleoedd yn y gwanwyn, yr hydref, yr haf, a’r gaeaf atom.

Dyma eich cyfle i rannu eich doniau ffotograffig gyda chynulleidfa ehangach. Gallai eich delweddau fod yn addurno waliau cartrefi a swyddfeydd ledled Cymru a’r byd ehangach yn 2026. 

Canllawiau Cyflwyno

  • Ffefrir ffotograffau eglur iawn, ar ‘dirwedd’
  • Lluniau o’r llawr yn unig – dim ffotograffau drôn
  • Gallwch gyflwyno hyd at 3 ffotograff ar gyfer pob cais
  • Dylai lluniau fod yn wreiddiol ac wedi’u tynnu ganddoch chi
  • Dim pobl yn y ffotograffau

Sut i ymgeisio:

Anfonwch eich e-byst at CADWMarketing@llyw.cymru gyda’r llinell bwnc “Calendr Cadw 2026”.

Rhowch eich enw, gwybodaeth gyswllt, a disgrifiad byr o bob llun.

Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram am ddiweddariadau a hysbysiadau.

Facebook @CadwWales 

Instagram @cadwcymruwales

Gwobrau:

  • Bydd lluniau dethol yn cael eu cynnwys yng Nghalendr Cadw 2026.
  • Bydd cyfranwyr llwyddiannus yn derbyn copi am ddim o’r calendr.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener, 28 Chwefror 2025.

Hawlfraint a Pherchnogaeth

Ni fydd cyflwyno eich ffotograffau i’n cystadleuaeth galendr yn effeithio ar eich hawlfraint neu berchnogaeth o’r delweddau. 

Er eich bod yn rhoi’r hawl i Cadw ddefnyddio’ch ffotograffau at y diben penodol o’u cynnwys mewn cynnyrch masnachol — calendr Cadw 2026 — gan gynnwys hyrwyddo ac arddangos mewn cysylltiad â’r gystadleuaeth, ni fyddwn yn caffael unrhyw hawliau perchnogaeth. Mae eich gwaith creadigol yn parhau i fod yn eiddo i chi, ac mae croeso i chi arddangos, gwerthu neu drwyddedu eich delweddau’n annibynnol os ydych chi am wneud hynny.