Ysgol Ddifyrru Juggling Jim
Ewch i Gastell Cas-gwent y penwythnos hwn i weld a allech chi fod yn ddifyrrwr canoloesol!
O jyglo a diablo i droelli platiau a cherdded rhaffau tyn, bydd ein difyrrwr preswyl Juggling Jim wrth law i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddiddanu arglwydd ac arglwyddes ganoloesol, ynghyd â'u gwesteion nodedig.
Sesiwn galw heibio yw hon felly does dim angen archebu lle.