Skip to main content

Dewch i weld Siôn Corn yn ei groto Fictoraidd yn y Gwaith Haearn y Nadolig hwn – a gwnewch atgofion unigryw i’r teulu cyfan!  

Mynediad olaf am 3:30pm.

Mae angen archebu ar gyfer y groto. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw – ar y safle ei hun neu drwy ffonio Gwaith Haearn Blaenafon ar 01495 792615. 

Bydd y safle ar agor ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul 10am-4pm. Neu drwy e-bostio BlaenavonIronworks@llyw.cymru

Cyrhaeddwch y Gwaith Haearn 10 munud cyn eich sesiwn; mae amseriadau Groto Siôn Corn yn fras ac efallai y bydd rhaid i chi aros i’ch sesiwn ddechrau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael digon o amser i drafod eu rhestr Nadolig gyda Siôn Corn!

Noder

Bydd Gwaith Haearn Blaenafon ar agor ar gyfer ymwelwyr y Groto yn unig ar ddyddiadau’r Groto Siôn Corn, a rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw.


Prisiau

£10 y plentyn (yn rhad ac am ddim i oedolion sy’n gwmni iddynt)

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 09 Rhag 2023
11:00 - 16:00
Sul 10 Rhag 2023
11:00 - 16:00
Sad 16 Rhag 2023
11:00 - 16:00
Sul 17 Rhag 2023
11:00 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Gwaith Haearn Blaenafon