Bywyd Mynachaidd mewn Mynachlogydd ac Abatai Canoloesol
Dewch i weld grŵp ail-greu The Chapter of Stronghold yn Abaty Tyndyrn, lle bydd yr aelodau’n portreadu agweddau ar fywydau pobl fynachaidd yn niwedd y canoloesoedd.
Dysgwch sut roedd mynachod, lleianod, a lleygwyr yn ysgrifennu, yn gweddïo, yn byw ac yn bwyta yn Abaty Tyndyrn. Fe welwch greirfa sanctaidd, llawysgrifau yn cael eu hysgrifennu, coginio o’r cyfnod, ac agweddau pwysig eraill ar fywyd y clerigwyr canoloesol.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 07 Meh 2025 |
10:30 - 16:30
|
Sul 08 Meh 2025 |
10:30 - 16:30
|