Profiad Adar Ysglyfaethus
Mwynhewch brofiad adar ysglyfaethus rhyngweithiol yng Nghastell Conwy.
Dewch i gwrdd â chasgliad o dylluanod, hebogiaid a chudyllod. Byddwch yn dysgu am yr adar godidog hyn a sut y bydden nhw’n cael eu defnyddio yn ystod helfeydd yn y canol oesoedd gan dîm gwybodus o arbenigwyr.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.