Helfa’r Pasg
Dewch i chwilio am yr ŵy prinnaf oll y Pasg hwn! Mae’r ŵy draig olaf yn cael ei gadw yng Nghastell Caernarfon, ac yn cael ei warchod gan set o gliwiau a marchog.
Dilynwch y cliwiau i ddod o hyd i'r ŵy ac, yn gyfnewid am hynny cewch eich gwneud yn Amddiffynnydd Draig swyddogol (a byddwch yn derbyn gwobr siocled am eich trafferthion)
Mae'r daith yn cael ei chynnal drwy gydol y dydd, a bydd yn cynnwys archwilio o gwmpas y safle. Yn addas iawn ar gyfer plant oed ysgol gynradd, er bod croeso i unrhyw un ymuno.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 19 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sul 20 Ebr 2025 |
10:00 - 17:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£14.50
|
Teulu* |
£46.40
|
Person Anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£10.10
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£13.00
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). Nid yw tocynnau ar-lein i’w cael ar hyn o bryd – os gwelwch yn dda, prynwch eich tocynnau pan fyddwch yn cyrraedd y safle. |