Noson o Straeon Ysbrydion
Gwisgwch yn gynnes a chymerwch eich sedd yn hen bantri’r castell am noson o straeon ysbryd a chwedlau lleol, wedi'u hadrodd gan ein storïwyr.
Mae'r tocynnau'n cynnwys diod boeth am ddim wrth gyrraedd. Oedolion yn unig.
Mae hwn yn ddigwyddiad dan do a bydd seddau yn cael eu darparu.
Mae'r sesiynau yn para tua 60 munud. Dylech gyrraedd 10 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau.
Mae niferoedd ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig felly mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.