Teithiau Ysbryd
Ymunwch â ni am daith gyda’r nos o amgylch Castell Cas-gwent, gyda straeon ysbryd, llên gwerin a chwedlau hynafol.
Dysgwch am drigolion a fu ar un adeg yn byw y tu mewn i’r muriau hyn, a chlywed hanesion ceidwaid ddoe a heddiw’r castell am weithgarwch goruwchnaturiol yn y castell.
Oedolyn yn unig.
Mae niferoedd ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig felly bydd rhaid archebu ymlaen llaw.
Byddwn yn agor 10 munud cyn i'r daith ddechrau, ac mae’r tocynnau’n cynnwys diod gynnes am ddim wedi i chi gyrraedd.
Cofiwch mai digwyddiad awyr agored yw hwn, felly mae'n rhaid gwisgo dillad ac esgidiau addas. Os bydd y tywydd yn wael, bydd y digwyddiad yn cael ei symud i un o'n mannau dan do.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Mer 22 Hyd 2025 |
19:00 - 20:30
|
Mer 29 Hyd 2025 |
19:00 - 20:30
|
Archebwch |