Beth am Ddarganfod… Meddyginiaeth ym Mhegwn y Gogledd
Dewch i gwrdd â Dr Frost, Prif Swyddog Meddygol Pegwn y Gogledd, a fydd yn egluro’r holl broblemau meddygol y mae’n rhaid i Siôn Corn eu hwynebu wrth ddosbarthu hwyl y Nadolig.
O salwch uchder (mae’n gorfod hedfan yn uchel yn ei sled), i effeithiau bwyta gormod o fins peis a bisgedi.
Dysgwch sut i gadw’n gynnes fel Siôn Corn hefyd!
Digwyddiad galw heibio yw hwn heb angen rhagarchebu.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 15 Tach 2025 |
10:00 - 15:00
|
Sul 16 Tach 2025 |
10:00 - 15:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£10.00
|
Teulu* |
£32.00
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.00
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |