Gyda Siôn Corn yn paratoi ar gyfer ei noson fawr, mae Mrs Corn yn brysur yn lledaenu ychydig o hud yr ŵyl dros Gastell Cas-gwent!
Bydd plant yn gallu gwrando ar stori Nadoligaidd gan Mrs Corn yn y lleoliad hanesyddol hardd hwn, a byddan nhw hefyd yn derbyn anrheg fach (os ydyn nhw wedi bod yn blant da!)
Mae’r niferoedd ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig, felly mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn (dim angen tocyn ar gyfer yr oedolyn; uchafswm o un oedolyn i bob plentyn).
Yn ogystal â thri sesiwn grŵp, bydd cyfres o sesiynau preifat 10 munud ar gyfer plant niwroamrywiol y gallai lleoliad grŵp fod yn heriol iddynt.
Sesiynau grwp 10.30am, 11.30am a 2.30pm
Sesiynau ar gyfer plant niwroamrywiol 12.30pm - 2.00pm
I sicrhau un o'r sesiynau ar gyfer plant niwroamrywiol , archebwch docyn sengl ar gyfer y sesiwn (12.30-13.30). Ar ôl i chi archebu'ch tocyn, anfonwch e-bost atom yn ChepstowCastle@llyw.cymru a byddwn yn dyrannu slot amser i chi ac yn ychwanegu unrhyw frodyr a chwiorydd at yr archeb. Fel arall, pan fyddwch chi'n cyrraedd y castell, bydd y staff ar ddyletswydd yn dyrannu amser sesiwn i chi.
Mae tocynnau mynediad cyffredinol i archwilio'r castell cyfan yn ddewisol, ac nid oes eu hangen i fynychu'r digwyddiad hwn. Cyrhaeddwch 10 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau.
| Categori | Price |
|---|---|
| Plant |
£5.00
|