Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru - Cerdded gyda’r Rhufeiniaid
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru - Cerdded gyda’r Rhufeiniaid
Gan ddechrau a gorffen eich taith yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, archwiliwch amffitheatr a barics trawiadol Isca gyda thywysydd Rhufeinig, am ddim!
Dewch i weld yr olion Rhufeinig! Rhowch gynnig ar orymdeithio yn yr amffitheatr fel byddai’r milwyr Rhufeinig wedi gwneud bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a sefyll yn y barics lle bydden nhw wedi bwyta, yfed a chysgu!
Cynhelir y sesiwn hon yn yr awyr agored, heb fawr o gysgod rhag yr elfennau, a dim lle i eistedd a gorffwys. Hefyd, mae’n bosibl bydd y tir anwastad yn peri trafferth i bobl â phroblemau symudedd.
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ar wefan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru - Archebu tocynnau
Pris - Am ddim
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Llun 11 Mai 2026 |
15:00 - 16:00
Archebwch
|
| Llun 08 Meh 2026 |
15:00 - 16:00
Archebwch
|
| Llun 13 Gor 2026 |
15:00 - 16:00
Archebwch
|