Ffordd yr Arfordir
Dyma deithlen hawdd saith diwrnod os hoffech fynd ar y daith ar Ffordd yr Arfordir.
Dydd un
Gweld. Dechreuwch yn Aberdaron, pentref pysgota tlws ar ben gorllewinol Penrhyn Llŷn sydd wedi’i leoli ger traeth tywodlyd eang. I ddianc rhag y cyfan, ewch ar daith fer i'r gogledd i Borth Iago, bae bach diarffordd wedi'i gysgodi gan bentiroedd glaswelltog.
Aros. Arhosodd Craig ac Aimee o Kinging-It’s mewn gwesty dros dro gan Epic Retreats, ond mae digon o lety ar gael yn yr ardal, gan gynnwys maes carafanau a maes gwersylla ym Mhorth Iago ei hun.
Dydd dau
Gweld. Ewch i Portmeirion, y pentref Eidalaidd rhyfeddol sydd ar lan aber Dwyryd, a adeiladwyd o ddim gan y pensaer Clough Williams-Ellis oedd â gweledigaeth bensaerniol arbennig iawn.
Aros. Gallwch estyn eich ymweliad ac aros yn Portmeirion. Dewis arall fyddai aros mewn bwthyn hunanarlwyo neu aros mewn un o’r ddau westy moethus lleol.
Dydd tri
Gweld. Cymerwch un olwg olwg arall ar ysblander Penrhyn Llŷn cyn symud ymlaen wedyn i Borth Neigwl Mae yma draeth hyfryd sy'n boblogaidd iawn gyda syrffwyr. Ymlaen wedyn i weld adfeilion atmosfferig Castell Cricieth, cyn teithio i lawr yr arfordir i’r Bermo. Cofiwch gerdded ar draws yr hen bont reilffordd bren sy'n mynd ar hyd ceg yr aber cyn gadael.
Aros. Wrth i chi deithio i’r de ac ychydig i mewn i’r tir beth am dreulio'r noson yn Eco-wersyll Fferm Denmarc ger Llanbedr Pont Steffan, sy’n lleoliad ecogyfeillgar hyfryd.
Dydd pedwar
Gweld. Ewch i weld y morloi yng Nghwmtydu. Mae'r traeth bach diarffordd hwn yn fagwrfa bwysig i'r mamaliaid morol carismatig sy'n ffynnu yn ein dyfroedd arfordirol. Fyddwch chi ddim yn gallu cael mynediad i'r traeth yn ystod y tymor bridio, ond byddwch yn dal i allu gweld yr holl loi bach del. Pleser llwyr!
Aros. Beth am aros yn Podiau Gwersylla Tai Twt ger Llanarth i chi gael teimlo’n rhan o natur?
Dydd pump
Gweld. Ewch am dro i weld tai ac adeiladau lliwgar sy’n amgylchynu’r harbwr yn Aberaeron cyn teithio i lawr yr arfordir i Gei Newydd i weld y dolffiniaid gyda chwmni teithiau cychod lleol.
Aros. Mwynhewch noson mewn bws deulawr sydd wedi’I haddasu yn le aros yng Nghanolfan Ceridwen, ger Dre-Fach Felindre, Sir Gaerfyrddin.
Dydd chwech
Gweld. Cyfle heddiw i ymweld â thref glan môr hyfryd Trefdraeth. Yn llai adnabyddus na rhai o'i chymdogion arfordirol, serch hynny mae'n gartref i lefydd bwyta ac yfed gwych, ynghyd â thraeth tywodlyd euraidd sy’n filltir o hyd.
Aros. Beth am garafanio mewn trelar disglair Airstream o’r Unol Daleithiau, yn Wildernest ger Llanbedr Pont Steffan?
Dydd saith
Gweld. Bydd y daith yn dod i’w therfyn ar arfordir Sir Benfro yn Ystangbwll sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yma draethau tywodlyd sydd wedi ennill sawl gwobr fel Bae Barafundle yn ogystal â chymoedd coediog gwyrddlas, llynnoedd lili sy'n gyforiog o fywyd gwyllt heb son am filltiroedd o lwybrau cerdded.
Aros. Arhoswch yn One Cat Farm, i fwynhau’r profiad o glampio mewn steil yn y bryniau uwchlaw Aberaeron. Gallwch gysgu mewn hamog a sgwrsio ger llefydd tân agored ynghyd a chael cyfle i ymlacio mewn bath sy’n cael ei gynhesu gan goed.