Archebion I Grwpiau
Rhaid i chi ddod â'ch cyfeirnod archebu neu god QR unigryw ar bob ymweliad fel prawf o'ch archeb gweithredwr teithiau.
Gallai diffyg cod QR neu gyfeirnod archebu dilys achosi oedi sylweddol i’ch grŵp o ran cael mynediad, ac mewn rhai achosion gallai atal mynediad.
Diolch am ddeall.
Tîm Masnachol Cadw
Rydym yn falch wneud archeb grŵp yn safleoedd Cadw.
Mae rhai o’n safleoedd yn dal i weithredu ar lai o gapasiti. Edrychwch ar ein tudalen I ble hoffech chi fynd? i weld yr amseroedd agor diweddaraf ar gyfer holl henebion Cadw.
*Oherwydd gwaith ailddatblygu yng Nghastell Caerffili, bydd ceisiadau am logi’r safle ac archebion gan y diwydiant teithio yn cael eu hystyried, ond efallai y bydd rhaid cau’r safle ar y funud olaf o dro i dro.
Archebwch ar-lein fel arfer drwy Gynllun Gweithredwyr Teithiau Cadw. Gallwch newid archebion cyn yr ymweliad drwy gysylltu â cadwcommercial@gov.wales
Rhaid i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Yn sgil canllawiau Llywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i chi gael asesiad risg sy'n cwmpasu pob gweithgaredd taith.
Rhaid i grwpiau sy’n cynnwys plant o dan 18 oed gael eu goruchwylio gan oedolion bob amser pan fyddant ar y safle. Bydd y gymhareb ‘oedolyn i blentyn’ ofynnol yn amrywio yn ôl oedran y plant. Sicrhewch eich bod yn bodloni’r gofynion o ran y gymhareb oruchwylio:
Oed 3–5yrs | Dosbarth meithrin a derbyn | 1:2 | |||
Oed 5–7yrs | Ysgol gynradd - babanod (h.y. blwyddyn 1 a 2, 5–7 oed) | 1:6 | |||
Oed 7–11yrs | Ysgol gynradd - plant iau | 1:10 | |||
Oed 11–14yrs | Ysgol uwchradd isaf | 1:10 | |||
Oed 14–16yrs | Ysgol uwchradd | 1:15 |
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Cynllun Gweithredwr Teithiau Cadw, gallwch hefyd gael Tocynnau Crwydro ar gyfraddau gostyngol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen wybodaeth Tocynnau Crwydro.
Cysylltwch â cadwcommercial@gov.wales er mwyn cael cod i brynu’r tocynnau ar gyfraddau masnach ar-lein.
Gwiriwch ein tudalen Dod o Hyd i Le i Ymweld ag ef i gael yr amseroedd agor diweddaraf ar gyfer holl henebion Cadw.
Heneb | Oedolyn | Plentyn*/ Myfyriwr | Dros 65 | ||||||||
£ | £ | £ | |||||||||
Castell Biwmares | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Gwaith Haearn Blaenafon | 6.25 | 4.40 | 6.00 | ||||||||
Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion | 4.55 | 3.15 | 4.35 | ||||||||
Castell Caernarfon | 11.50 | 8.10 | 10.90 | ||||||||
Castell Caerffili | 9.30 | 6.50 | 8.85 | ||||||||
Castell Coch | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Castell Cas-gwent | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Castell Conwy | 10.15 | 7.10 | 9.65 | ||||||||
Castell Cricieth | 6.40 | 4.55 | 5.95 | ||||||||
Castell Dinbych | 5.05 | 3.50 | 4.85 | ||||||||
Castell Harlech | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Castell Cydweli | 6.40 | 4.55 | 5.95 | ||||||||
Castell Talacharn | 5.05 | 3.50 | 4.85 | ||||||||
Plas Mawr | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Castell Rhaglan | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Castell Rhuddlan | 5.05 | 3.50 | 4.85 | ||||||||
Llys yr Esgob Tŷ Ddewi | 5.05 | 3.50 | 4.85 | ||||||||
Abaty Tyndyrn | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
Llys a Chastell Tretŵr | 8.10 | 5.70 | 7.50 | ||||||||
*Dylai plant rhwng 5 a 17 oed fod yng nghwmni oedolyn |
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi a’ch cleientiaid eto yn fuan.
Ebost: Cadwcommercial@llyw.cymru
Ffôn: 03000 257 182