Skip to main content

Dyma nifer o syniadau ar gyfer trefnu teithiau sy’n ymweld â rhai o adeiladau hynafol Cymru.

Gobeithio y bydd y syniadau hyn yn rhoi rhyw syniad i chi o rai o’r atyniadau hanesyddol unigryw sydd i’w gweld yma yng Nghymru.

Rydym yn mawr obeithio y bydd y syniadau hyn yn eich helpu chi baratoi  teithiau cyffrous ar gyfer eich cleientiaid. Mae Cymru yn lleoliad diguro o ran y cyfoeth o gestyll sydd i’w gweld yn y wlad (mae’n rhyfeddol i feddwl bod mwy na 600 o gestyll yng Nghymru!). Rydym o’r farn fod rhai o gestyll gorau Prydain i’w gweld o fewn ffiniau Cymru.

Ond beth am ddod draw i chi gael gweld â’ch llygaid eich hun? Mae yma gestyll amddiffynnol cadarn a godwyd yn y Canol Oesoedd, adeiladau a godwyd yn ystod y gwrthdaro yn ystod y Rhyfel Cartref, y Cyfnod Tuduraidd ac adeiladau a’i ormodiaeth bensaernïol a godwyd yn ystod y Cyfnod Fictoraidd. Bydd ysblander pensaernïol yr adeiladau hyn yn siŵr o ryfeddu pawb sy’n ymweld â nhw.

Dowch draw felly i ddysgu mwy am hanes y genedl Gymreig drwy ymweld â’r adeiladau fu’n amddiffyn y wlad.