Y Daith Ymwybyddiaeth Ofalgar
Beth? Taith gerdded hamddenol 5km ar hyd glan gorllewinol afon Gwy gan ymweld ag Abaty Sistersaidd godidog ar y ffordd
Ble? Tyndyrn, Sir Fynwy
Safle Cadw i’w weld: Abaty Tyndyrn
Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: mae’n werth galw yng nghorff yr Abaty i gael lluniau sy’n werth eu rhannu ar Instagram — gyda bwâu bendigedig a ffenestr ganoloesol amheuthun.
Mae Abaty Tyndyrn wedi’i lleoli yng nghalon Dyffryn Gwy. Dyma’r abaty canoloesol sydd yn y cyflwr gorau yng Nghymru, ac mae’n enwog am fod yn lle braf i ymwelwyr fwynhau llonydd a thawelwch.
Ewch am dro i'r safle hyfryd i ddechrau, cyn mynd am dro cerdded hamddenol am awr a hanner ar hyd glan gorllewinol afon Gwy a drwy’r coetir cyfagos nes cyrraedd Pulpud y Diafol.
Mae golygfeydd bendigedig i’w gweld o’r abaty urddasol tu draw i falconi calch naturiol y ‘pulpud’, sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dyma’r lle perffaith i gael llun i’w roi ar Instagram.
Ymlaciwch wedyn drwy gael tamaid i’w fwyta yn y dafarn leol, yr Anchor Inn. Dim ond tafliad carreg o’r safle llawn swyn y mae’r dafarn-gastro hon, lle mae digon o le cysurus i chi eistedd y tu mewn a’r tu allan — a digon o olygfeydd godidog o gefn gwlad o amgylch hefyd.
Os hoffech aros am benwythnos o ymlacio, beth am roi eich traed i fyny yn Beaufort Cottage — bwthyn moethus sydd wedi cael ei adnewyddu’n hyfryd ar dir yr Abaty, sydd hefyd yn cynnwys hen greiriau a thrawstiau o’r 18fed ganrif.