Skip to main content

Beth? Pedair milltir ar droed i weld campwaith creigiog Llywelyn Fawr

Ble? Dolwyddelan, Conwy

Safle Cadw i’w weld: Castell Dolwyddelan

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: golygfeydd o Foel Siabod, a bryniau a phantiau’r ardal, o ben tŵr y Castell.

Mae’r trên yn dod bob dydd i Ddolwyddelan o Landudno, Betws-y-coed a Blaenau Ffestiniog, felly mae’r daith yn gyfle perffaith i adael y car a cherdded yn ôl troed tywysogion canoloesol Cymru.

Dechreuwch eich diwrnod yng Ngorsaf Drenau Dolwyddelan, ac ar ôl cyrraedd, dechreuwch ar y daith gerdded 2.5k drwy dir amaethyddol prydferth i ddarganfod Castell Dolwyddelan sy’n sefyll yno’n gwylio ar ei ben ei hun. Mae modd cael manylion y gylchdaith yn y fan yma.

Ar un adeg, roedd y castell mawreddog yn eiddo i Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd. A gyda mymryn o gymorth i'w adfer gan bobl Oes Fictoria, mae’r castell, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, yn gampwaith sy’n aros yno yn barod i gael ei archwilio.

Beth am orffen y diwrnod drwy ymweld â Gwesty a Bwyty Castell Elen — lle cewch olygfeydd dros Gwm Lledr, sydd ryw funud neu ddau ar droed o'r Castell. Mae Castell Elen yn cynnig ystafell glyd a bwyd cartref blasus ym Mwyty Siabod — sydd wedi’i enwi ar ôl Moel Siabod, y mynydd sy'n 872m neu 2861 o droedfeddi ac sy’n codi o'r pentref.