Skip to main content

Beth? Taith gerdded linol, 7km ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Sanclêr i Dalacharn — yn dilyn ôl traed artistiaid a beirdd o’r gorffennol

Ble? Sir Gaerfyrddin

Safle Cadw i’w weld: Castell Talacharn

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: y bont fechan o flaen y Castell. Tynnwch eich llun yma gyda golygfeydd godidog o’r aber a’r adfeilion canoloesol yn y cefndir.

Mae golygfeydd hyfryd i’w gweld o amgylch Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir i gyd, ond mae’r llwybr o amgylch Caerfyrddin yn arbennig o dda os hoffech chi weld perl o’r oesoedd canol… Castell Talacharn.

Gwisgwch eich esgidiau cerdded a dechreuwch ar eich taith gerdded yn nhref fechan Sanclêr — cymuned dawel ar lannau Afon Taf. Bydd y daith gerdded 7km yn mynd â chi drwy goetiroedd sydd wedi cael llonydd ac ar hyd llwybrau cefn gwlad nes byddwch chi’n cyrraedd caer ganoloesol hyfryd Talacharn.

Mae’r gweddillion geirw sy’n sefyll yn urddasol ar yr aber wedi ysbrydoli sawl artist uchel ei barch dros y canrifoedd, gan gynnwys J. M. W. Turner a'r bardd enwog o Gymru, Dylan Thomas.

Beth am dreulio awr neu ddwy yn mynd o amgylch y safle. Gallwch gerdded drwy’r gerddi Fictoraidd, ymlacio yn y tŷ haf a mwynhau golygfeydd godidog o'r Gŵyr cyn ailymuno â llwybr yr arfordir a cherdded tuag at bentref Talacharn.

Ar y ffordd, beth am alw heibio yn y ‘Boathouse’, cartref Dylan Thomas, i fwynhau cacenni cri cartref, bara brith neu sgons ffres yn yr ystafell de, a gweld golygfeydd bendigedig ar draws yr afon.

Neu, os hoffech rywbeth mwy swmpus i roi egni i chi, beth am blatiaid o gaws Cymreig neu sleisen o bei lleol yn The Ferryman Delicatessen — deli teuluol ar Stryd Fawr Talacharn lle ceir croeso cynnes bob amser.